Deiseb a gwblhawyd Cyllid ar gyfer gwasanaeth bws arfordirol y Cardi Bach
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adfer y cyllid ar gyfer gwasanaeth bws arfordirol y Cardi Bach yng Ngheredigion.
Gwybodaeth bellach – Bydd gwasanaeth bws arfordirol y Cardi Bach, sy’n rhedeg rhwng Aberteifi a Cheinewydd, yn dod i ben ar 30 Medi oherwydd diffyg cyllid. Roedd y gwasanaeth yn derbyn rhywfaint o arian gan Lywodraeth Cymru o dan y Cynllun Datblygu Gwledig 2007-2013.
Mae cynnydd amlwg wedi bod yn nifer yr ymwelwyr i’r ardal hon, yn enwedig cerddwyr, ers agor Llwybr Arfordir Cymru yn 2012. Mae’r gwasanaeth bws arfordirol wedi galluogi ymwelwyr i fynd i’r trefi a’r pentrefi ar hyd y llwybr.
Mae’r gwasanaeth bws yn dod â chwsmeriaid i fusnesau lleol.
Mae’n boblogaidd gyda cherddwyr ar Lwybr Arfordir Cymru, gan ei fod yn eu galluogi i fwynhau teithiau cerdded llinellol.
Mae’n rhoi dewis arall i breswylwyr ac ymwelwyr, ar wahân i’r car.
Bydd rhai ardaloedd gwledig, yn arbennig, yn dioddef anghyfleustra os bydd y gwasanaeth bws yn dod i ben. Er enghraifft, mae Cwmtudu yn bentref poblogaidd ar y llwybr yr arfordir, hanner ffordd rhwng Ceinewydd a Llangrannog. Os bydd rhywun am gael bws o fan hyn, byddai’n rhaid iddo gerdded 4 milltir i’r llwybr bws agosaf. Byddai’n cael anhawster yn ffonio am dacsi gan nad oes blwch ffôn cyhoeddus, a gan fod y signal ffôn symudol yn wael iawn.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon