Deiseb a gwblhawyd Cefnogaeth i Fil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)
'Yr ydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru i bleidleisio o blaid y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) unwaith y caiff ei gyflwyno gerbron y Cynulliad.'
Rhagor o fanylion
Bydd Kirsty Williams AC yn cyflwyno'r Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru maes o law. Byddai'r Bil hwn yn gosod mewn cyfraith prif egwyddorion Prif Swyddog Nyrsio Cymru o ran lefelau staffio ar bob ward feddygol a llawfeddygol. Cred y Coleg Nyrsio Brenhinol fod angen y ddeddfwriaeth hon i wella diogelwch cleifion a bydd yn helpu i wella ffydd cleifion yn GIG Cymru, yn ogystal â sicrhau bod cleifion yn ysbytai Cymru yn cael y gofal a'r sylw nyrsio sydd eu hangen arnynt. Bydd hefyd yn caniatáu i staff nyrsio ddarparu gofal i'r safon y maent wedi derbyn hyfforddiant i'w wneud ac i'r safon yr hoffent ei ddarparu.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon