Deiseb a gwblhawyd Stopiwch y Troslgwyddo Dilyffethair o Lyfrgelloedd Cyhoeddus i'r Sector Gwirfoddol

Rydym yn galw ar y Dirprwy Weinidog dros ddiwylliant i dderbyn, ar unwaith, argymhelliad III yn yr Adolygiad Arbenigol o Lyfrgelloedd Cyhoeddus yng Nghymru 2014 (Ni ddylid gweithredu newidiadau i wasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus cyn cynhyrchu dewisiadau wedi’u costio). Ar ben hynny, dylai’r Dirprwy Weinidog bellach fod yn cynghori pob awdurdod lleol yng Nghymru y bydd y gofyniad hwn yn effeithiol ar gyfer newidiadau arfaethedig a gyhoeddir ar ôl dyddiad cyhoeddi'r Adolygiad Arbenigol (22 Hydref 2014) a hefyd ar gyfer cynigion a gyhoeddwyd cyn y dyddiad hwnnw, lle mae ymgynghoriad cyhoeddus yn dod i ben ar ôl 22 Hydref 2014. Mae angen y camau hyn i atal y pentwr o gynigion gan Fro Morgannwg ac awdurdodau lleol eraill yng Nghymru i drosglwyddo ein llyfrgelloedd cyhoeddus i'r sector gwirfoddol heb roi ystyriaeth briodol i opsiynau eraill.

Rhagor o fanylion

Ni ellir caniatáu i gynghorau yng Nghymru wneud fel y mynnont o ran cynigion i droi llyfrgelloedd cyhoeddus yn wasanaethau a reolir gan wirfoddolwr, a hynny heb gyhoeddi opsiynau wedi'u costio, neu, mewn rhai achosion, heb eu hystyried hyd yn oed. Mae llawer o gynigion yn debyg i hyn: 'rhedwch y llyfrgell eich hunain neu byddwn yn ei chau'. Mae'r Adolygiad Arbenigol wedi nodi y dylai argymhelliad III gael ei roi ar waith ar unwaith, ac mae wedi nodi bod awdurdodau lleol wedi cael eu cyfyngu i nodi 'enillion cyflym' wrth gyflawni targedau ariannol a all, yn eu tro, arwain at effeithiau negyddol, e.e. diffyg sgiliau yn y gweithlu. Mae'r Adolygiad hefyd yn nodi bod angen adolygu effeithiau a chostau'r 'enillion cyflym' yn y tymor hwy a nodi ymyriadau yn y dyfodol i liniaru'r effeithiau. Mae ein grŵp ymgyrch wedi codi'r mater hwn gyda CyMAL, sydd wedi nodi na fydd modd gwneud y newidiadau hyn yn ôl-weithredol oherwydd yr amser sydd ei angen i basio deddfwriaeth newydd. Fodd bynnag, bydd methu gweithredu'r argymhelliad hwn bellach yn arwain at gynnydd pellach yn y domen bresennol o gynigion i droi llyfrgelloedd cyhoeddus yn wasanaethau a reolir gan y gymuned, a hynny ar sail yr angen i wneud arbedion cyllideb a heb hyd yn oed ystyried anghenion defnyddwyr llyfrgelloedd neu opsiynau eraill. Os na weithredir yr argymhelliad hwn ar unwaith, mae'n debyg y bydd cynnydd pellach yn y llwyth o lyfrgelloedd a roddir i wirfoddolwyr wrth i Gynghorau ruthro i weithredu'r newidiadau hyn cyn y gellir rhoi deddfwriaeth effeithiol ar waith. Yn achos ein llyfrgell ni yn y Rhws, dechreuodd ein hymgynghoriad wythnos cyn i'r Adolygiad Arbenigol gael ei gyhoeddi, ond pan ofynwyd i Gyngor y Fro ddarparu opsiynau wedi'u costio yn unol ag argymhellion yr Adolygiad, ei ateb oedd nad yw'n ofynnol iddo weithredu ar sail yr argymhellion ar hyn o bryd. Bydd cynghorau yn parhau i anwybyddu argymhellion yr Adolygiad Arbenigol nes y bydd deddfwriaeth effeithiol yn cael ei chyflwyno.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

68 llofnod

Dangos ar fap

5,000