Deiseb a gwblhawyd Rheoliadau Facebook ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru:
I ddiweddaru "Llawlyfr y Swyddog Adolygu Annibynnol: Canllawiau statudol ar gyfer swyddogion adolygu annibynnol ac awdurdodau lleol ar eu swyddogaethau mewn perthynas â rheoli ac adolygu achosion ar gyfer plant sy'n derbyn gofal" i atal plant o dan 13 oed rhag sefydlu cyfrifon Facebook;
Y dylid trafod pryderon sy'n ymwneud â chyfryngau cymdeithasol fel rhan o'r Adolygiad Statudol;
Y dylai plant gael eu caniatáu / hannog i gynnwys rhieni, brodyr a chwiorydd ac aelodau eraill o'u teulu fel ffrindiau ar Facebook;
Y dylai darpariaethau adrodd gael eu gwneud i Lywodraeth Cymru;
Y dylai'r canllawiau cyfredol sy'n nodi y dylai'r defnydd o gyfrifiaduron gael ei fonitro o bryd i'w gilydd, gael ei uwchraddio i ofyniad statudol yn wythnosol (o leiaf).
Rhagor o fanylion
Pan fydd unigolion yn sefydlu cyfrifon Facebook, gofynnir iddynt ardystio eu bod yn o leiaf 13 oed drwy roi dyddiad geni. Os bydd y dyddiad geni yn dangos eu bod yn iau, cânt eu hatal rhag parhau. Mae pryderon wedi cael eu codi gan David Cameron, NSPCC, yr heddlu a sefydliadau eraill yn ymwneud â phlant dan oed yn cael mynediad at Facebook. Er gwaethaf yr uchod, mae awdurdodau lleol yn fwriadol yn caniatáu i blant sy'n agored i niwed, mor ifanc â 9 oed, gael cyfrif Facebook a chael mynediad at gyfryngau cymdeithasol eraill.
• ffugio oedran
• gosodiadau preifatrwydd heb eu gosod
• plant yn nodi eu manylion cyswllt
• hysbysebu ble maent
• 'sexting' (term Saesneg)
• ffrindiau ddim yn briodol o ran oedran neu'n anhysbys i'r gofalwyr / teulu
• Gall y statws 'like', ffrindiau a miloedd o ddilynwyr arwain at negeseuon o natur grai / rywiol
Risgiau
• Proffiliau ffug
• Cynnwys neu gyngor anghyfreithlon / niweidiol
• Bwlio, stelcio, meithrin perthynas amhriodol ar y rhyngrwyd, rhannu cynnwys
• Preifatrwydd gwybodaeth - casglu data personol gan blant
• Marchnata cynnyrch anghyfreithlon ac sy'n gyfyngedig o ran oedran - gamblo, dod o hyd i gariad ar y rhyngrwyd, bwyd a diodydd
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon