Deiseb a gwblhawyd Adolygu a gorfodi Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014

Ymddengys nad yw Deddf Rheoli Ceffylau (Cymru) 2014 yn addas at y diben ac nad yw'n gwella llesiant ceffylau sy'n pori ar dir comin. Nid oes system foddhaol i gofnodi a rheoli nifer y ceffylau a'r merlod sy'n cael eu gadael i ddioddef a marw yn ystod y gaeaf a misoedd cyntaf y gwanwyn, ac mae'r rheini sy'n goroesi yn bridio ac yn ychwanegu at y broblem o un flwyddyn i'r llall. Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn teimlo bod angen rhoi sawl mesur ychwanegol ar waith:

1) Cofrestru/rhewfrandio ceffylau sy'n perthyn i gominwyr sydd â hawliau pori cyfreithlon.

2) Ni ddylai unrhyw ebolion bori ar dir comin os ydynt dros chwe mis oed oni bai eu bod yn frodorol ac wedi'u trwyddedu (er mwyn diogelu Merlod Mynydd Cymreig)

3) Elusennau cofrestredig yn cael yr hawl i gael gwared â cheffylau ar sail llesiant drwy gytundeb â'r heddlu, a symud y merlod i gartrefi maeth sydd wedi'u cymeradwyo ymlaen llaw wrth chwilio am y perchnogion. Pan fo'n bosibl, dylid ailgartrefu'r merlod ar ôl cyfnod penodol o amser.

4) Os bydd ceffylau sydd wedi "ymgynnull" yn pori'n anghyfreithlon, ac os na ellir dod o hyd i'r perchnogion, yna dylid gwneud ymdrech i'w hailgartrefu i ddechrau, cyn gwneud unrhyw benderfyniad i'w rhoi i lawr (nid dyma'r weithdrefn bresennol).

5) Dylai'r holl weithdrefn fod yn dryloyw a dylai cynghorau fod yn atebol i'r cyhoedd.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

134 llofnod

Dangos ar fap

5,000