Deiseb a gwblhawyd Deiseb i Wella’r Ddarpariaeth o Dai sy’n Addas i Bobl Anabl yng Nghymru

Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i weithredu er mwyn sicrhau y caiff pob cartref newydd yng Nghymru ei adeiladu i fodloni holl Safonau Ansawdd Tai Cymru yn llawn, gan sicrhau eu bod mor gynhwysfawr â Safonau Cartefi am Oes, gydag o leiaf 10 y cant o gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu i safonau hygyrchedd llawn ar gyfer cadeiriau olwyn.

Rhagor o fanylion

Argyfwng cudd tai yng Nghymru: diffyg cartrefi sy'n addas i bobl anabl.

Bob blwyddyn, daw 500,000 o bobl yn y DU yn anabl.


Golyga hynny bod angen gallu addasu cartrefi, er mwyn gallu gosod canllawiau cydio ac ystafelloedd gwlyb, lifftiau grisiau neu beiriannau codi. Ond ni ellir addasu llawer o gartrefi presennol o gwbl, ac ni ellir addasu'r rhan fwyaf o gartrefi newydd yn rhad chwaith. Yng Nghymru:


- mae 72% o bobl yn byw mewn cartref heb ddrws ffrynt hygyrch: felly, o'r cannoedd o filoedd o bobl a gaiff nam symudedd bob blwyddyn, bydd yn rhaid i'r rhan fwyaf symud tŷ neu wynebu'r risg o fod yn gaeth i'w cartrefi eu hunain;


- nid oes gan 54% o bobl Cymru risiau sy'n ddigon mawr i osod lifft arnynt: felly, os ydynt yn mynd yn anabl, byddant yn gaeth i'r llawr gwaelod, gan ymolchi wrth sinc y gegin, cysgu yn eu lolfa, a methu â rhoi eu plant yn eu gwelyau;


- ar hyn o bryd, mae 22% o aelwydydd anabl yn aros am gael gwneud addasiadau i'w cartref.


Ar ôl cael codwm, mae pobl anabl a phobl hŷn yn gorfod mynd i'r ysbyty. Ond gallai'r ffugur hwn gael ei leihau'n ddramatig drwy osod lifftiau grisiau, canllawiau cydio a llawr gwastad mewn adeiladau, gan arbed miliynau o bunnoedd i'r GIG. Amcangyfrifir mai'r gost i'r GIG o dorri asgwrn un glun yw £28,000. Mewn cymhariaeth, dim ond £1,100 yn ychwanegol yw'r gost o adeiladu cartref newydd i'r Safon Cartrefi am Oes.


Oherwydd eu dyluniad, mae cartrefi sy'n addas i bobl anabl yn rhatach ac yn haws i'w haddasu na chartrefi eraill:


  • Gall y gost o osod lifft grisiau mewn Cartref am Oes fod cyn lleied â £2,500, ond os nad yw'r wal wrth y grisiau yn ddigon cryf, gallai'r gost o'i hatgyfnerthu neu ei hailadeiladu fod bump neu ddeg gwaith hynny.

  • Os yw'r ystafell ymolchi wedi cael ei chynllunio yn ddigon mawr ar gyfer lle i gadair olwyn, efallai mai'r unig gost i addasu'r cartref fyddai tua £300 i osod canllawiau cydio. Ond os oes angen lledu'r drws a bod angen atgyfnerthu'r wal, gallai'r costau'n rhwydd fod tua 30 gwaith yn uwch.

Llofnodi'r ddeiseb hon yw'r peth iawn i'w wneud yn economaidd, yn gynaliadwy ac yn foesegol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

795 llofnod

Dangos ar fap

5,000