Deiseb a gwblhawyd Addysg Gymraeg: Bendith neu Felltith?

​Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo, yn gywir ddigon, i gyflawni gwerth gorau am arian ym mhob Gwasanaeth Cyhoeddus. Yn anffodus, mae'r Adran Addysg a Sgiliau yn gwario £2 biliwn bob blwyddyn, ond i ddarparu addysg o'r safon waethaf yn y DU. Mae'r Gweinidog wedi dweud mai "Addysg heddiw yw Economi yfory"; os yw'n iawn, mae'r rhagolygon i Gymru yn llwm iawn.

O'i chymharu â safonau rhyngwladol PISA, mae ansawdd yr addysg a geir yn ein hysgolion wedi bod yn dirywio yn drychinebus ers dyfodiad Datganoli. Mae'r Llywodraeth yn amddiffyn ei hun drwy ddweud mai tlodi a phoblogaeth wasgaredig sy'n llesteirio'r ddarpariaeth o Wasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru, ond mae Cynnyrch Domestig Gros Gogledd Iwerddon yn is, ac mae gan Ogledd Iwerddon a'r Alban lai o bobl fesul milltir sgwâr.

Mae'r Amgylchedd i'w weld mewn dwylo diogel. Ni ellir datblygu safle segur heb Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol o flaen llaw; ni chaniateir troi'r un garreg os oes y posibilrwydd lleiaf y bydd madfall yn cuddio o dani neu aderyn mudol yn ei chwilota. Nid yw ein Plant, mae'n debyg, yn haeddu'r un gofal - gan na chynhelir Asesiad cyfatebol o Effaith Addysgol pob menter newydd cyn iddi amharu ymhellach ar y dosbarth.

O gofio bod 50% o'r boblogaeth islaw'r cyfartadledd ym mhob dawn a gallu - wrth reswm – anghyfrifol oedd i'r Llywodraeth weithredu'r Polisi Addysg Gymraeg heb yn gyntaf sefydlu bod gan blant sydd islaw'r cyffredin o ran eu sgiliau iaith y gallu i fod yn ddwyieithog. Yn absenoldeb unrhyw dystiolaeth i'r gwrthwyneb, mae'n gwbl bosibl mai baich ychwanegol y rhaglen ddwyieithog hon sy'n llyffetheirio ein pobl ifanc ym mhrofion PISA ac am oes.

Rydym yn gofyn i'r arbrawf Addysg Gymraeg gael ei roi heibio - oni bai y gellir dangos yn glir nad yw ei barhad yn gwneud unrhyw niwed.

Rhagor o fanylion

​Ni all y Llywodraeth, mae'n debyg, wahaniaethu rhwng RHAID ac EISIAU: rhaid iddi reoli'r Economi yn llwyddiannus, rhaid iddi gyflwyno Addysg o'r radd flaenaf a rhaid iddi sicrhau gwerth gorau am arian yn yr holl wariant cyhoeddus; yn ogystal, fel dyhead cenedlaethol hollol ddilys, efallai y bydd yn awyddus i feithrin y Gymraeg fel y bydd yn ffynnu... ond ni ellir gadael i fympwyon o'r fath ymyrryd â'r hyn sydd rhaid.

Dywedir bod gweithredu Polisi yn destun craffu dwys gan y Cynulliad a chan Gyrff Cyhoeddus eraill y tybir eu bod yn annibynnol. Mae'n syndod, felly, na all Pwyllgorau'r Cynulliad, nac Estyn, na Swyddfa'r Archwilydd Cyffredinol gyflwyno unrhyw dystiolaeth i ddangos:

• bod cyflogwyr yn gwerthfawrogi, a bod arnynt eisiau, weithwyr sy'n ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg;

• bod person a chanddo sgiliau iaith is na'r cyffredin yn meddu ar y gallu i fod yn ddwyieithog;

• NAD baich ychwanegol y rhaglen ddwyieithog sy'n llyffetheirio ein pobl ifanc ym mhrofion PISA;

• bod y Llywodraeth, gan gyfeirio'n arbennig at ein safle dirywiol o ran PISA, yn cael y gwerth gorau am arian yn ei gwariant ar addysg;

• bod creu cyfoeth yn digwydd yn Gymraeg; neu,

• fod yr Adran Addysg a Sgiliau, er gwaethaf pob arwydd i'r gwrthwyneb, yn addas i'r diben.

Enghraifft arall o ffolineb yr Adran Addysg a Sgiliau yw bod £12 miliwn yn cael ei afradu, bob blwyddyn, ar y rhaglen Cymraeg i Oedolion: nid yn yr ystafell ddosbarth, ar "addysgu", ond ar weinyddu. Yn waeth, ni all neb ddweud sawl dysgwr sydd wedi dod yn rhugl yn y Gymraeg, os o gwbl.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

117 llofnod

Dangos ar fap

5,000