Deiseb a gwblhawyd Mynyddoedd Pawb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddarbwyllo cyrff a sefydliadau i ddiogelu a pharchu ein cyfoeth o enwau lleoedd er mwyn:
1) ysgogi parch a diddordeb yn yr iaith Gymraeg ac i sicrhau a chynyddu'r defnydd ohoni.
2) cynyddu'r ymdeimlad o hunaniaeth ymysg cymunedau lleol drwy rannu cyfoeth ein treftadaeth ddiwyllianol gydag eraill.
3) ennyn diddordeb ac ymwybyddiaeth ymwelwyr o gyfoeth ein treftadaeth leol a thrwy hynny ddod a buddion addysgol ac economaidd i ardaloedd.
Gellid cyflawni hyn trwy:
- weithio gyda chanolfannau awyr agored er mwyn codi eu hymwybyddiaeth o enwau lleoedd traddodiadol brodorol, ac er mwyn eu cefnogi i ddefnyddio enwau lleoedd Cymraeg yn eu gwaith o ddydd i ddydd.
- tynnu sylw at gyfoeth ein henwau lleoedd o ran ein treftadaeth ddiwylliannol, a’r hyn y gallant ei gyfleu trwy addysgu am hanes, daearyddiaeth, chwedloniaeth a defnydd tir hanesyddol ein gwlad.
- darbwyllo Llywodraeth Cymru i ddod ag enwau lleoedd traddodiadol a hir sefydlog dan reolaeth gynllunio.
(Mae deiseb ysgrifenedig yn cyd-redeg.)
Rhagor o fanylion
Rydym o’r farn y dylid codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd diogelu enwau lleoedd Cymraeg, a bod gan sefydliadau a chymdeithasau gwirfoddol, yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, ran allweddol yn y gorchwyl. Hefyd, dylai ysgolion sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael cyfle i werthfawrogi cyfoeth enwau lleoedd Cymraeg fel rhan o'u treftadaeth genedlaethol.
Credwn y dylai enwau lleoedd ynghyd a'r dreftadaeth a'r hanes sy'n gysylltiedig â nhw, fod yn rhan annatod o gyrsiau astudiaethau'r amgylchedd mewn addysg bellach ac addysg uwch, ac o gyrsiau gweithgareddau awyr agored sy’n cael eu rhedeg gan gyrff eraill. Dylid sicrhau bod cyrff hyfforddi, canolfannau a chlybiau sy’n ymwneud â mynydda a gweithgareddau awyr agored yn cael eu hannog i ddefnyddio enwau lleoedd Cymraeg.
Gofynnwn i’r Cynulliad Cenedlaethol bwysleisio pwysigrwydd hyn oll i Lywodraeth Cymru, fel y gall ddarbwyllo awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru,Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol, ynghŷd a chyrff eraill yn y sectorau statudol, cyhoeddus, gwirfoddol a phreifat, i gymryd camau priodol i ddiogelu enwau lleoedd Cymraeg.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon