Deiseb a gwblhawyd LLEOLIAETH O RAN CYNLLUNIO AC IAWNDAL AR GYFER TRYDYDD PARTÏON O RAN PROSIECTAU SEILWAITH
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau/warantu, wrth iddi ddiwygio'r system gynllunio yng Nghymru, y cymerir penderfyniadau cynllunio ar y lefel fwyaf lleol posibl er mwyn galluogi digon o gymorth i'r gymuned ac ymgysylltu â hi. Ar ben hynny, mae'n annog Llywodraeth Cymru i archwilio'n fanwl effaith cynlluniau seilwaith mawr ar drydydd partïon yng Nghymru ac ystyried rhoi ar waith ddeddfwriaeth i amddiffyn yn iawn pob Trydydd Parti, a gwneud iawn ag ef, lle mae adeiladu, comisiynu a gweithredu prosiectau seilwaith mawr yn peri colled wirioneddol iddo.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon