Deiseb a gwblhawyd Cadw’r Uned Famolaeth dan Arweiniad Ymgynghorwyr yn Ysbyty Glan Clwyd ar Agor
Yr ydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn gofyn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr roi’r gorau i gau’r Uned Famolaeth dan arweiniad Ymgynghorwyr yn Ysbyty Glan Clwyd. Credwn y bydd cau’r uned yn niweidio lles merched beichiog a’u teuluoedd, ac y bydd yn peryglu bywydau. Nid ydym yn credu ei fod yn iawn nac yn deg i gleifion orfod teithio hyd at 30 milltir am driniaeth, yn enwedig pan fydd angen triniaeth ar frys. Credwn y bydd y pwysau ychwanegol ar staff Ysbyty Maelor ac Ysbyty Gwynedd yn niweidio’r gwasanaethau mamolaeth yn yr ysbytai hynny. Gofynnwn i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ystyried opsiynau eraill (fel cau’r uned i driniaethau dewisol) a chadw ymgynghorwyr yn Ysbyty Glan Clwyd ar gyfer diogelwch merched beichiog.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon