Deiseb a gwblhawyd Achub ein Gwasanaeth - Achub Anifeiliaid Mawr yng Ngogledd Cymru
Dyma alw am weithredu. Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, am i Gynulliad Cenedlaethol Cymru annog Llywodraeth Cymru i ymyrryd er mwyn atal Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru rhag rhoi'r gorau i'w gwasanaeth achub anifeiliaid mawr. Rydym o'r farn y bydd rhoi'r gorau i'r gwasanaeth hwn yn rhoi anifeiliaid mewn perygl ac yn cael effaith negyddol ar les yng Ngogledd Cymru. Mae perygl i bobl hefyd gan y byddant yn rhoi eu hunain mewn sefyllfaoedd peryglus er mwyn helpu i achub anifeiliaid os nad oes gwasanaeth i'w helpu.
Mae'r gwasanaeth achub anifeiliaid mawr yn wasanaeth arbenigol iawn ac mae angen llawer o hyfforddiant a chyfarpar na all unrhyw sefydliad arall ei ddarparu ar hyn o bryd. Rydym yn gofyn i'r penderfyniad gael ei newid ac y rhoddir arian ychwanegol er mwyn galluogi hyn, neu y rhoddir modelau cyllido cynaliadwy eraill ar waith. Diolch.
Rhagor o fanylion
Pryderon:
• Caiff mwy o anifeiliaid eu rhoi i gysgu am na ellir eu 'hachub' (mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cael 60 o alwadau mewn dwy flynedd)
• Bydd pobl yn ceisio bod yn arwyr - mae'r penderfyniad hwn yn rhoi pobl mewn perygl, dim dealltwriaeth o effaith gorfforol pryder meddyliol - yr ymateb rhyddhau.
Pwy fydd yn helpu nawr?
Nid oes gan RSPCA y cyfarpar / hyfforddiant na'r staff. Mae llawer o'r hyfforddiant, fel hyfforddiant Gwasanaeth Tân Hampshire, wedi dod yn sgil gwersi a gafodd eu dysgo o achub anifeiliaid yn y gorffennol. Nid oes gan RSPCA hynny. Staff - 9 swyddog yng Ngogledd Cymru, gyda rhai'n rhan amser.
Nid yw milfeddygon yn cael unrhyw hyfforddiant ar wahân i gyrsiau arbenigol, cyrsiau na fydd y rhan fwyaf o filfeddygon wedi'u dilyn
Pam fod angen cynnwys y Gwasanaeth Tân:
• Wedi'u hyfforddi - dealltwriaeth o ysgogi yn erbyn atal/tawelu a sut y mae anifeiliaid yn ymateb i drawma
• Protocol ac arfer da cenedlaethol wedi'u datblygu - 2007
• Gyda rolau wedi'u nodi
• Gallu rheoli sefyllfa
• Asesiadau o risg
Mae Gwasanaeth Tân Hampshire yn arwain y blaen yn y maes o achub anifeiliaid mawr. Yn ôl ei wefan: Large animal rescue is recognised as one of the most dangerous activities a firefighter will be engaged in and so specialised training and equipment is essential
O ddarlith a roddwyd gan aelod o staff y Gwasanaeth:
• Mae diffyg dealltwriaeth yn arwain at sefyllfaoedd peryglus i'r anifeiliaid a'r rhai sy'n ceisio eu hachub
• Mae achub ceffylau/anifeiliaid mawr yn cyflwyno amrywiaeth o heriau - ymennydd/hanes/pryder/perchennog
• Dylai anifeiliaid mawr gael eu hystyried fel rhywbeth peryglus
Mae cost y gwasanaeth hwn yn tua £8,000/£9,000 y flwyddyn.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon