Deiseb a gwblhawyd Addysg Rhyw a Chydberthynas (SRE) statudol i bob ysgol a sefydliad addysgol yng Nghymru
Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru wneud SRE yn bwnc statudol yn y cwricwlwm i bob ysgol a sefydliad addysgol yng Nghymru. Rydym yn cyflwyno'r ddeiseb hon ar ran defnyddwyr gwasanaethau'r prosiect ABFABB a Fforwm Pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol (LGBT) Pen-y-bont ar Ogwr. Ar hyn o bryd, mae SRE yn cael ei darparu fel rhan o Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh). Mae'r ddarpariaeth yn anghyson, ac yn aml nid yw'n cynnwys perthnasoedd LGBT. Dengys tystiolaeth nad yw 85% o bobl ifanc yn cael eu haddysgu am agweddau biolegol a chorfforol ar berthnasoedd o'r un rhyw. Dengys y dystiolaeth hefyd mai dim ond 22% o bobl ifanc sy'n trafod materion LBG mewn dosbarthiadau SRE (Stonewall Cymru, 2012). Byddai darparu SRE mewn modd cynhwysol yn ehangu ymwybyddiaeth o deuluoedd, perthnasoedd a theimladau gwahanol. Yn y pen draw, byddai'n cyfrannu at y broses o fynd i'r afael â bwlio ac iaith homoffobig, trawsffobig a deuffobig mewn ysgolion. Byddai hefyd yn creu amgylchedd gwaith mwy tryloyw i athrawon a phob aelod o staff.
Yr unig fodd o sicrhau darpariaeth gynhwysol yw rhoi statws statudol i SRE ledled Cymru. Rydym yn cynnig y dylai statws statudol gynnwys:
• Elfen orfodol i'r pwnc a fyddai'n sicrhau bod y cam hwn yn cael ei weithredu.
• Darpariaeth sy'n gynhwysol ac yn briodol o ran oed, gyda disgwyliadau dysgu penodol ar gyfer pob cam dilynol.
• Rhaglen hyfforddi gynhwysfawr ar gyfer athrawon a phob aelod o staff.
• Gwybodaeth am rywioldeb a hunaniaeth o ran rhywedd; er bod y rhain yn wahanol, byddai ehangu ymwybyddiaeth am bob math o berthynas gadarnhaol o oedran cynnar o fudd i bob plentyn, waeth beth yw ei hunaniaeth neu ei rywioldeb.
Rhagor o fanylion
Mae prosiect ABFABB yn rhan o'r portffolio Llais Cymunedol ac yn cael ei ariannu gan y Gronfa Loteri Fawr. Ei nod yw ennyn diddordeb aelodau'r gymuned LGBT yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr mewn cynllunio, darparu a gwerthuso gwasanaethau.
Mae Fforwm LGBT Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu llwyfan ymgysylltu ar gyfer defnyddwyr a darparwyr gwasanaethau yn yr ardal. Ar hyn o bryd, mae hyn yn cynnwys gwasanaethau statudol, elusennau a sefydliadau gwirfoddol.
Anfonwyd ceisiadau rhyddid gwybodaeth at Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Llywodraeth Cymru ac Estyn. Mae gan gyrff cenedlaethol ganllawiau anstatudol. Nid oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cadw dim o'r wybodaeth y gofynnwyd amdani, hyd yn oed mewn perthynas â'r ysgolion y mae'n eu hariannu'n uniongyrchol.
Rydym o'r farn fod yr asesiad diweddar o'r cwricwlwm (Dyfodol Llwyddiannus), gyda'i ffocws ar feysydd o arbenigedd a chontinwwm o ddysgu, yn gyfrwng delfrydol ar gyfer darparu SRE sydd yn statudol, yn gynhwysol ac yn briodol o ran oed. Mae'r datganiad ysgrifenedig a wnaed ar ddarpariaeth addysgol a'r Bil Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) hefyd yn darparu dulliau arloesol o hyfforddi a allai dynnu sylw at berthnasoedd cadarnhaol o'r un rhyw a safbwyntiau cadarnhaol ynghylch materion LGBT.
Yn sgil y datblygiadau hyn, mae gennym gyfle i ddarparu SRE o ansawdd da i bob plentyn yng Nghymru.
Mae'r ystadegau a ddarperir uchod ar gael yn 'Yr Adroddiad Ysgol' (Stonewall Cymru, 2012). Mae'r 'Adroddiad Athrawon' (Stonewall Cymru) yn datgan mai dim ond 33% o athrawon mewn ysgolion cynradd sydd wedi codi'r mater o deuluoedd sydd â rhieni o'r un rhyw. Yn ôl yr adroddiad, nid yw 35% o athrawon mewn ysgolion uwchradd wedi codi materion LGBT yn yr ystafell ddosbarth. Yn ôl yr Ymddiriedolaeth AIDS Genedlaethol (NAT, 2015), nid yw 75% o ymatebwyr wedi cael gwybodaeth am berthnasoedd ac atyniad o'r un rhyw mewn gwersi SRE. Yn benodol, mae'n argymell sicrhau bod darparu ARhPh yn ofyniad statudol ym mhob ysgol gynradd ac uwchradd (Argymhelliad 4).
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon