Deiseb a gwblhawyd Y Gwasanaethau Brys - Pŵer Mynediad
Ceisio pŵer mynediad deddfwriaethol i'r Gwasanaeth Ambiwlans a fyddai'n caniatáu i'w staff dorri i mewn i eiddo, wrth ymgymryd yn gyfreithlon â'u dyletswyddau, er mwyn achub bywydau neu i achub pobl rhag niwed difrifol.
Rhagor o fanylion
O dan ddeddfwriaeth bresennol, caiff y Gwasanaeth Tân dorri i mewn i eiddo o dan adran 44 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub ac mae gan yr Heddlu'r hawl i wneud hynny hefyd o dan adran 17 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol. Nid yw'r Gwasanaeth Ambiwlans wedi'i ddiogelu gan ddeddfwriaeth o'r fath ac, er enghraifft, gall ateb galwad brys a chael hyd i glaf yn gorwedd ar lawr eiddo sydd dan glo. Rhaid i'r Gwasanaeth Ambiwlans wedyn ofyn i'r Heddlu ddod i arfer eu pŵer mynediad o dan Adran 17 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid iddynt aros cyn cynorthwyo'r person sydd wedi'i anafu ac nad yw adnoddau cyhoeddus yn cael eu defnyddio'n ddoeth.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon