Deiseb a gwblhawyd Gwahardd y Defnydd o Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau yng Nghymru

​Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod:

- Yn credu na all anghenion cymhleth anifeiliaid gwyllt gael eu bodloni'n ddigonol mewn amgylchedd syrcas;

- Yn nodi bod anifeiliaid gwyllt yn parhau i wynebu'r posibilrwydd o fywyd mewn amgylchedd syrcas anaddas yng Nghymru;

- Yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gwaharddiad llwyr ar ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yn cael ei gyflwyno yng Nghymru cyn gynted ag y bo modd.

Rhagor o fanylion

​Mae rhagor o wybodaeth am waith RSPCA Cymru i roi terfyn ar y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru ar gael yma: http://politicalanimal.wales/wild-animals-circuses-wales/

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

517 llofnod

Dangos ar fap

5,000