Deiseb a gwblhawyd Achubwch Brosiect Filter - Ymgyrch a Sefydlwyd i Atal Pobl Ifanc Rhag Ysmygu ac i'w Helpu i Roi'r Gorau Iddi.

​Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu prosiect Filter - sef ymgyrch a sefydlwyd i atal pobl ifanc rhag ysmygu ac i'w helpu i roi'r gorau iddi.

Rhagor o fanylion

​Mae bron 5,500 o bobl yng Nghymru yn marw o glefydau sy'n gysylltiedig ag ysmygu bob blwyddyn ac mae 21% o oedolion yng Nghymru yn ysmygu ar hyn o bryd. Gall plant fynd yn gaeth i ysmygu  - mae llond dosbarth o bobl ifanc yn dechrau ysmygu bob dydd yng Nghymru; rhaid gwneud mwy i leihau'r nifer hon.

Mae prosiect Filter, a ariannwyd am dair blynedd gan y Gronfa Loteri Fawr ac a gaiff ei roi ar waith gan ASH Wales Cymru, wedi bod yn llwyddiant mawr gan addysgu pobl ifanc mewn cymunedau difreintiedig am ysmygu. Ond mae'r gwasanaeth o dan fygythiad gan y daw ei gyllid i ben ym mis Hydref 2015.

Mae'r gwasanaeth yn cynnig:

• Gweithdai wyneb yn wyneb gyda phobl ifanc

• Hyfforddiant i weithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr ifanc

• Cymorth i roi'r gorau i ysmygu drwy ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol

• Gwefan sy'n rhoi gwybodaeth a chyngor i bobl ifanc yn benodol

Mae tîm datblygu ieuenctid prosiect Filter wedi gweithio gyda dros 5,000 o bobl ifanc mewn dros 200 o sesiynau  ledled Cymru, a hynny gyda chefnogaeth y cyfryngau cymdeithasol a gwasanaethau ar-lein. Mae'r tîm wedi creu cysylltiadau hollbwysig mewn cymunedau difreintiedig ledled Cymru, lle mae cyfraddau ysmygu ar eu huchaf. Mae'r tîm hefyd wedi hyfforddi dros 750 o weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phobl ifanc.

Dros y tair blynedd diwethaf mae'r fenter hon wedi darparu gwasanaeth gwerthfawr, gan fynd i'r afael â'r broblem fwyaf ym maes iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Mae helpu pobl ifanc i roi'r gorau i ysmygu, a'u hatal rhag dechrau gwneud hynny, ymhlith blaenoriaethau pwysicaf Llywodraeth Cymru, fel y nodir yn y Cynllun Gweithredu Rheoli Tybaco. 

Aeth Prifysgol Caerdydd ati i gynnal gwerthusiad annibynnol o brosiect Filter a daeth i'r casgliad bod y tair agwedd ar waith prosiect yn  ymarferol ac yn hyblyg a bod modd eu haddasu wrth eu rhoi ar waith.

Daw grant Y Gronfa Loteri Fawr i ben ym mis Hydref eleni a, heb unrhyw gyllid pellach gan Lywodraeth Cymru neu Iechyd Cyhoeddus Cymru, ni fydd gennym unrhyw wasanaeth sy'n gweithio gyda phobl ifanc y tu allan i leoliadau ysgol. Mae gwasanaeth fel prosiect Filter yn hanfodol i sicrhau cenhedlaeth ddi-fwg ac i fynd i'r afael â'r broblem fwyaf rydym yn ei hwynebu o ran iechyd cyhoeddus.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

365 llofnod

Dangos ar fap

5,000