Deiseb a gwblhawyd Deiseb yn Erbyn Canllawiau Anstatudol yng Nghymru ar Gyfer Awdurdodau lleol ar Addysg Ddewisol yn y Cartref

Ym mis Mai 2014, cyhoeddodd Gweinidog Addysg Llywodraeth Cynulliad Cymru y byddai canllawiau anstatudol newydd yn cael eu llunio ar gyfer Addysg Ddewisol yn y Cartref, yn dilyn ymgynghoriad â theuluoedd sy'n addysgu yn y cartref.

Mae canllawiau drafft wedi'u cyhoeddi i ymgynghori arnynt ac nid ydynt yn adlewyrchu safbwyntiau cryf y teuluoedd hynny sy'n addysgu yn y cartref.

Credwn fod y canllawiau hyn wedi'u hysgrifennu'n wael, eu bod yn gamarweiniol ac yn debygol o arwain at fethiant pellach yn y gydberthynas rhwng teuluoedd sy'n addysgu yn y cartref ac awdurdodau lleol.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i dynnu'r canllawiau drafft yn eu hôl gan nad ydynt yn addas at y diben.

 

Yn hytrach, dylai awdurdodau lleol weithio tuag at ddangos eu dealltwriaeth o'r gyfraith sy'n bodoli eisoes ynghylch addysg yn y cartref, a chydymffurfio â'r canllawiau cyfredol sydd wedi'u diffinio'n glir.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

2,846 llofnod

Dangos ar fap

5,000