Deiseb a gwblhawyd Gwahardd Defnydd Ar-lein a Phleidleisio Electronig gan Aelodau Cynulliad yn Siambr y Senedd

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Aelodau'r Cynulliad yn cael eu gwahardd rhag defnyddio'r rhyngrwyd yn ystod sesiynau yn y Senedd, ac i sicrhau bod pleidleisio yn y Senedd yn cael ei wneud drwy ddangos dwylo, ar lafar neu ddefnyddio papur pleidleisio.

Rhagor o fanylion

Mae yna ofid y gall defnyddio'r rhyngrwyd yn ystod trafodaethau yn y Senedd effeithio'n negyddol ar uniondeb trafodaethau gwleidyddol a deddfwriaeth yng Nghymru. Dylai Aelodau'r Cynulliad ganolbwyntio'n llawn ar sesiynau trafod. Os nad yw Aelodau'r Cynulliad yn talu sylw i drafodaethau yn y Senedd, sut y gallwn ddibynnu arnynt i ystyried diddordebau'r bobl y maent yn eu cynrychioli?

Dylid hefyd bleidleisio drwy ddangos dwylo, ar lafar neu ddefnyddio papur pleidleisio neu gofrestriad er mwyn sicrhau tryloywder llawn. Mae technoleg a'r rhyngrwyd yn gymorth mawr ar gyfer gwaith gweinyddu ac ymchwil ond ni ddylid dibynnu arnynt, na chaniatáu iddynt ddylanwadu ar y broses ddemocrataidd a thrafodaeth wleidyddol iach a chadarn yn gyffredinol.

O gymharu, mae Aelodau Cynulliad Gogledd Iwerddon wedi pleidleisio yn erbyn pleidleisio electronig yn siambr eu Cynulliad hwy. Yn yr Alban, er y caniateir defnyddio dyfeisiau electronig yn lle nodiadau ar bapur i siarad yn sesiynau Senedd yr Alban, mae Llywydd Senedd yr Alban wedi gwahardd defnyddio'r rhyngrwyd.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

3 llofnod

Dangos ar fap

5,000