Deiseb a gwblhawyd Gweithio i Amddiffyn Llywodraeth Leol wrth Bennnu Cyllidebau yn yr Hydref
Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru weithio i amddiffyn llywodraeth leol wrth bennu cyllidebau yn yr Hydref.
Helpu i amddiffyn y gwasanaethau rydym i gyd yn dibynnu arnynt gymaint, y gwasanaethau rydym eu hangen pan fyddwn yn ei chael hi'n anodd fwyaf.
Helpu i ddiogelu ein swyddi yr ydym mor falch eu gwneud yn ein cymunedau.
RHAID i Lywodraeth Cymru ddod o hyd i opsiynau eraill i'w hystyried, opsiynau a fyddai'n cael cryn dipyn yn llai o effaith ar ein cymunedau lleol.
Rhagor o fanylion
Bydd toriadau pellach i'r gyllideb yn dinistrio ein cymunedau. Mae'r gwasanaethau y mae llywodraeth leol yn eu darparu yn hanfodol i bob un ohonom.
Bydd toriadau pellach i gyllideb llywodraeth leol yn dinistrio swyddi, gwasanaethau a chymunedau lleol.
Er enghraifft: mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn un o'r awdurdodau sy'n wynebu'r lefelau uchaf o amddifadedd yn y DU. I reoli'r toriad diweddar o £102 miliwn i'w gyllideb, mae wedi gweithio'n galed mewn partneriaeth gref gyda'r undebau llafur er mwyn osgoi diswyddo gorfodol a chontractio gwasanaethau'n allanol. Mae'r toriadau wedi cael effaith ar y gwasanaethau a ddarperir a'r gweithlu.
Gallai toriadau pellach olygu colli swyddi, gan gynnwys swyddi ar reng flaen gwasanaethau, a throsglwyddo gwasanaethau'r cyngor i'r sector preifat. Mae UNSAIN Castell-nedd Port Talbot wedi dangos nad yw contractio gwasanaethau'n allanol yn gweithio'n hirdymor. Pan gaiff cwmnïau o'r sector preifat eu defnyddio, mae'n amharu ar ddarparu gwasanaethau, mae'n gostus ac mae islaw safonau arferol, yn ogystal â cholli swyddi a chael effaith ar delerau ac amodau gweithwyr.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon