Deiseb a gwblhawyd Cyfreithloni Cymorth i Farw
Yn dilyn y bleidlais ddiweddar yn Senedd y DU, rwyf wedi ymchwilio rhywfaint i'r pwnc. Yn ôl fy ngwaith ymchwil, mae 82 y cant o'r cyhoedd o'r farn y dylai meddyg, yn ôl pob tebyg neu yn sicr, gael cynorthwyo claf i farw ar gais y claf os oes ganddo glefyd poenus na ellir ei wella. Ni all pobl sydd â salwch angheuol farw ag urddas yn y DU, ac ar hyn o bryd, mae'n rhaid iddynt fynd i Dignitas yn y Swistir neu dreulio ddiwedd eu hoes mewn poen, ac yn fy marn i nid yw hynny'n deg. Rwyf yn galw am gyfreithloni cymorth i farw yn achos y rhai sydd â salwch angheuol. Hyd yn oed os oes gan unigolyn dri mis i fyw, mae hynny'n dri mis yn llai o boen a dioddefaint. I gloi, hoffwn ddyfynnu Brittany Lauren Maynard, a ddarganfu fod ganddi diwmor ar yr ymennydd nad oedd modd ei drin ac a ddewisodd ddod â'i bywyd i ben ag urddas yng nghlinig Dignitas yn y Swistir. Gofynnaf i chi helpu i wireddu breuddwyd Brittany, fel na fydd angen i bobl eraill ddioddef y fath boen. "I want to see a world where everyone has access to death with dignity".
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon