Deiseb a gwblhawyd Offer i Helpu Pobl Eiddil

Ni allaf ddeall pam, ar ôl dwy flynedd o apelio i'r bobl sydd â'r pŵer i ddatrys problemau, nad yw addasiad bach wedi'i wneud er mwyn fy ngalluogi i, menyw 77 oed gydag anhawster symudedd oherwydd arthritis yn y ddwy glun/ben-glin, deithio yn y car cymunedol. Nid oes gan y ddau gar a brynwyd at y diben o helpu pobl hŷn a phobl anabl, y mae eu hangen arnaf, ddolenni cydio fel y gall y teithiwr yn y sedd flaen fynd i mewn i'r car. Mae fy ffeil o gysylltiadau'n cynnwys gwneuthurwr y car, a oedd yn fwy na pharod i bostio dolenni cydio, ac roedd cwmni yng Nghaerdydd yn barod i'w gosod (dwi'n siŵr bod arbenigwyr tebyg yn Abertawe!)

Rwyf felly yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn orfodol gosod dolenni cydio mewn cerbydau a ddefnyddir mewn cynlluniau trafnidiaeth cymunedol.

Rhagor o fanylion

​Rwy'n fwy na pharod i dalu'r gost o osod y dolenni cydio - gyda'r amcangyfrif yn £200. Felly, rwy'n gwneud yr apêl hwn mewn ymdrech olaf i fy ngalluogi i ymweld â'r meddyg, sef fy prif angen, a chael rhywfaint o gyswllt cymdeithasol. Ar hyn o bryd, mae fy nghyswllt drwy'r rhyngrwyd ar gyfer siopa ac ati. Os yw'n ofynnol yn ôl y gyfraith i dacsis masnachol gael dolenni cydio, yna dylai maen prawf tebyg fod yn gymwys i geir cymunedol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

23 llofnod

Dangos ar fap

5,000