Deiseb a gwblhawyd Dileu’r Cymhwyster Bagloriaeth Cymru

​Ar adeg pan ddywedir wrth bobl ifanc bod yn rhaid iddynt ragori mewn pynciau cwricwlwm craidd fel Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth, mae Bagloriaeth Cymru yn cymryd amser y gellid ei ddefnyddio i ganolbwyntio ar y meysydd hyn. Mae Bagloriaeth Cymru yn gymhwyster dibwrpas nad yw o unrhyw ddiben gwirioneddol i ddyfodol myfyriwr.  Gallai'r cymhwyster Bagloriaeth Cymru gael ei ddileu'n hawdd neu ei ddisodli gan gwrs dinasyddiaeth. Gallai dileu Bagloriaeth Cymru hefyd helpu i wella graddau gan y byddai'n caniatáu i fyfyrwyr ganolbwyntio ar gyrsiau TGAU a Safon Uwch gwirioneddol, a byddai'n tynnu'r pwysau ychwanegol oddi ar fyfyrwyr.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

378 llofnod

Dangos ar fap

5,000