Deiseb a gwblhawyd Mynnu ein Hawliau i'r Gymraeg yn y Sector Breifat
Galwn ar y Cynulliad Cenedlaethol i fynnu bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau gwasanaethau Cymraeg gwell gan yr holl sectorau preifat a gwirfoddol, sy'n dod o fewn cwmpas Mesur y Gymraeg 2011, drwy gydweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i gyflwyno rheoliadau i'r Cynulliad Cenedlaethol cyn etholiadau'r Cynulliad yn 2016 neu ar yr adeg gynharaf bosibl.
Mae cannoedd o filoedd o bobl Cymru yn cael eu hamddifadu o wasanaethau Cymraeg sylfaenol bob dydd gan nifer fawr o gyrff, megis cwmnïau ffôn, band-eang, ynni, a thrafnidiaeth. Achosir yr anghyfiawnder cwbl ddiangen hwn oherwydd nad yw Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg wedi gweithredu'n llawn y pwerau sydd ganddynt o dan Mesur y Gymraeg, a basiwyd yn unfrydol gan y Cynulliad bron i bum mlynedd yn ôl. Mae Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg felly yn rhwystro ewyllys ddemocrataidd pobl Cymru.
Credwn ymhellach y dylid diwygio Mesur y Gymraeg er mwyn cyflymu a symleiddio'r broses o osod Safonau'r Gymraeg ar gyrff a chwmnïau, sefydlu hawliau cyffredinol i'r Gymraeg, ac ymestyn sgôp y Mesur i weddill y sector breifat, gan gynnwys archfarchnadoedd a banciau.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon