Deiseb a gwblhawyd Galwn am Ddeddfwriaeth Cynllunio Well a Mwy Effeithiol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth ac am Orchymyn Dosbarthiadau Defnydd Newydd

Dylid cyflwyno gorchymyn dosbarthiadau defnydd newydd - Gorchymyn C5 - i gynnwys HMOs - tai amlfeddiannaeth yng Nghymru – sy'n dod o dan y diffiniad o HMO yn Rhan 7 o'r Ddeddf Tai 2004 ar y cyd ag Atodlen 14 i Ddeddf Tai 2004.

Galwn hefyd am i drothwy dwysedd gael ei gyflwyno trwy ganiatáu i awdurdodau cynllunio ddileu hawliau datblygu a ganiateir yn y rhannau o Gymru sy'n gweithredu cynllun trwyddedu ychwanegol - neu ar sail dinas gyfan, pa un bynnag sydd fwyaf priodol, fel y byddai "newid defnydd sylweddol" rhwng dosbarthiadau defnydd yng Nghymru yn gofyn caniatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd.

Credwn y dylai Llywodraeth Cymru fynd ati i gymell landlordiaid HMO sy'n ystyried "fflipio" eu heiddo o dan y darpariaethau ar gyfer HMOs yn y Ddeddf Tai a'r Ddeddf Cynllunio, yn debyg i gynllun Troi Tai'n Gartrefi Cymru, fel bod landlordiaid HMOs yn cael gwneud cais am gymorth grant busnesau bach a chanolig i ddychwelyd eiddo HMO at ddefnydd domestig yn unig.

Rhagor o fanylion

​Bydd yr ymgyrch hon yn rhedeg hyd at etholiad y Cynulliad yn 2016 ac mae'n gofyn bod Lywodraeth Cymru yn defnyddio ei phwerau deddfu helaethach i gysoni'r diffiniadau cyfreithiol o dan ddeddfwriaeth tai a deddfwriaeth cynllunio, gan hefyd alluogi i awdurdodau cynllunio lleol ddefnyddio meini prawf DWYSEDD HMO penodol sy'n berthnasol i gymuned neu dinas-ranbarth er mwyn cyfyngu ar nifer yr HMOs lle y nodir neu y rhagwelir effeithiau a chanlyniadau andwyol.

Mae'r ddeiseb yn gofyn am gymhelliant yng Nghymru a fyddai'n annog landlordiaid HMOs i ddychwelyd eiddo at ddefnydd domestig yn unig gan felly wella'r stoc tai fforddiadwy a fyddai ar gael.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

11 llofnod

Dangos ar fap

5,000