Deiseb a gwblhawyd Codi Tâl am Barcio a'r Berthynas â'r Stryd Fawr a'i Llwyddiant

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwil, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol yng Nghymru, i wneud asesiad llawn o'r berthynas rhwng codi tâl am barcio ceir a llwyddiant y stryd fawr leol.

Mae'r Athro Calvin Jones o Ysgol Fusnes Caerdydd wedi pwysleisio'r effaith economaidd negyddol o dalu am barcio ceir, yn enwedig mewn trefi marchnad. Yng ngoleuni hyn - ac astudiaeth Weinidogol gyfredol ar y mater - rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog awdurdodau lleol Cymru i osod moratoriwm ar gyflwyno tâl am barcio ceir ar safleoedd newydd yn eu perchnogaeth ac unrhyw gynnydd mewn ffioedd parcio tan etholiad 2017.

Yn ogystal, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod awdurdodau lleol yn ymgysylltu'n rhagweithiol â chynghorau tref a chymuned perthnasol, cyn gweithredu unrhyw newidiadau yn y drefn leol ar gyfer parcio ceir. Dylai cynghorau tref a chymuned gael y cyfle i fabwysiadu meysydd parcio yn eu hardal - gan nad oes unrhyw un mewn sefyllfa well i ddeall deinameg y stryd fawr leol - cyn i unrhyw opsiynau eraill, yn enwedig rhoi gwaith rheoli ar gontract allanol, gael eu hystyried.

Yn olaf, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud rheoliadau clir a thryloyw sy'n llywodraethu'r gweithdrefnau ynghylch taliadau parcio ceir i awdurdodau lleol eu dilyn.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

89 llofnod

Dangos ar fap

5,000