Deiseb a gwblhawyd Derwen Brimmon
Derwen Brimmon, Fferm Brimmon Isaf, Y Drenewydd, Powys.
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gadw at argymhellion adroddiad a gomisiynodd gan yr arbenigwr coedyddiaeth a benodwyd fel rhan o'r asesiad amgylcheddol ar gyfer ffordd osgoi yr A483 y mae gwir angen amdani yn Y Drenewydd.
Byddai hyn yn arwain at gadw un o 'Henebion Naturiol' mwyaf arwyddocaol Sir Drefaldwyn, tra'n hwyluso adfywiad economaidd y dref sirol. Mae pobl o Sir Drefaldwyn, ar draws Cymru ac yn wir y byd ehangach yn ymwybodol bod cynaliadwyedd bob amser wedi bod yn 'brif egwyddor drefniadol' Llywodraeth Cymru ers creu'r Cynulliad Cenedlaethol ym 1999.
Bydd diogelu Derwen Brimmon, fel rhan o Ffordd Osgoi hanesyddol yr A483 yn Y Drenewydd yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i warchod ein genedigaeth-fraint er Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon