Deiseb a gwblhawyd Democratiaeth mewn Llywodraeth Leol

​Yn y blynyddoedd diwethaf, cafwyd tuedd ar lefel llywodraeth leol yng Nghymru lle gwelwyd swyddogion anetholedig yn cymryd rheolaeth o awdurdodau lleol i bob pwrpas.

Yn ddieithriad, mae hyn yn digwydd pan fo grŵp bach o gynghorwyr yn cytuno i ddangos teyrngarwch i uwch swyddogion yn hytrach nag i'r cyngor y cawsant eu hethol iddo a'r bobl sy'n byw yn yr ardal leol.

Mae'n ddigwyddiad sy'n arwain at nifer o bryderon.

  1. Pan fydd uwch swyddogion yn arfer pŵer a chynrychiolwyr etholedig yn cael eu hallgáu, i bob pwrpas, o'r broses gwneud penderfyniadau yna, yn amlwg, mae'r broses ddemocrataidd yn cael ei thanseilio ac nid oes atebolrwydd am yr hyn a wneir.

  2. Os yw'r rhan fwyaf o gynrychiolwyr etholedig yn cael eu hallgáu o unrhyw rôl heb law am rai arwynebol, mae'n codi'r cwestiwn pam mae angen i gynghorau, sy'n brin o arian, dalu cymaint, mewn ffyrdd amrywiol, i eunuchiaid gwleidyddol.

Felly, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i fod yn ymwybodol o'r bygythiad hwn i ddemocratiaeth leol, ac os daw'n amlwg bod uwch swyddogion yn dylanwadu mewn ffordd amhriodol ac annemocrataidd ar drefniadau rheoli unrhyw awdurdod lleol, i rybuddio'r awdurdod hwnnw'n gyhoeddus mai'r cynrychiolwyr etholedig yn unig sydd â'r pŵer i wneud penderfyniadau, ac os caiff y fath rybudd ei anwybyddu, i wneud yr awdurdod hwnnw'n destun mesurau arbennig.

Rhagor o fanylion

Ni waeth beth yw maint eu cyflogau gormodol na pha gymwysterau sydd ganddynt, cyflogeion y cyngor a gweision yr etholwyr a'r boblogaeth ehangach yw uwch swyddogion llywodraeth leol o hyd.  Pan fyddant yn tanseilio democratiaeth drwy gymryd rheolaeth dros yr awdurdodau lleol sy'n eu cyflogi, mae hynny'n annerbyniol ac yn beryglus.

Ac eto, dyma'r union sefyllfa a welir mewn nifer o'n hawdurdodau lleol, ond, am resymau y gŵyr hi orau beth ydynt, mae Llywodraeth Cymru wedi anwybyddu'r sefyllfa, er bod y broblem o ran uchafiaeth swyddogion wedi bod yn amlwg ers sawl blwyddyn.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

144 llofnod

Dangos ar fap

5,000