Deiseb a gwblhawyd Talwch Gostau Teithio Llawn Myfyrwyr Nyrsio
Yn 2014, newidiodd Llywodraeth Cymru ei pholisi ar deithio i leoliadau gwaith, sef yr elfen mewn gwaith o gwrs nyrsio. Cyn y newid hwn, roedd myfyrwyr yn cael eu talu am eu treuliau teithio o'u cartref i'w gweithle. Bellach, telir myfyrwyr am gost teithio o'u cartref, neu'r brifysgol y maent yn astudio ynddi. Yna defnyddir y pellter lleiaf i gyfrifo'r taliad y maent yn ei gael.
Mae myfyrwyr nyrsio heb ddibynyddion yng Nghymru yn derbyn bwrsari o oddeutu £100 i £500 y mis. Ar ei orau, dyw'r ffigur uwch, o'i wasgaru ar draws eu horiau gwaith, yn ddim gwell nag isafswm cyflog. Ar leoliadau gwaith, mae disgwyl i fyfyrwyr nyrsio fabwysiadu nifer gynyddol o gyfrifoldebau nyrs. Maent yn darparu gofal – yn ymolchi, gwisgo a bwydo cleifion; yn siarad â chleifion a'u teuluoedd; ac yn gweithio gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i wella llesiant cleifion. Hefyd, mae gofyn iddynt ddangos eu bod yn dysgu o'r lleoliadau gwaith hyn, ac yn mireinio'u sgiliau wrth ofalu am gleifion.
Mae torri'r lwfansau teithio ar gyfer y lleoliadau gwaith hyn yn gyfystyr â thorri'r cyfanswm a dderbynnir am fod yn fyfyriwr nyrsio. Mae'r newid hwn yn achosi nifer o effeithiau andwyol.
Mae hyn yn rhoi cymhelliant i brifysgolion gynnig lleoliadau mor agos â phosibl i'r campws i fyfyrwyr - gan gyfyngu ar brofiad clinigol myfyrwyr nyrsio cyn iddynt gymhwyso.
Mae'n gwneud nyrsio'n llai deniadol i bobl o gymunedau gwledig neu anghysbell.
Mae'n ffafrio nyrsys sy'n byw'n agosach at eu prifysgol, a gallai fod yn rhwystr i'r rheini sy'n methu symud oherwydd ymrwymiadau i blant ac eraill.
Mae'n gwneud nyrsio'n llai deniadol i bobl mewn gwaith amser llawn, neu o gefndiroedd difreintiedig.
Rydym yn credu y dylid talu costau teithio myfyrwyr nyrsio lle bynnag y maent yn byw, i'r lleoedd y maent yn gweithio ynddynt. Rydym yn credu bod y newid hwn yn ei gwneud yn llai tebygol y bydd pobl yn dewis gyrfa mewn nyrsio, ac yn credu y bydd yn cyfyngu ar y profiadau y byddant yn eu cael cyn cymhwyso. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthdroi'r newid hwn, er budd myfyrwyr nyrsio a'u cleifion.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon