Deiseb a gwblhawyd Dylid Gosod System Goleuadau Traffig yng Nghylchfan Cross Hands

​Dengys ystadegyn a gyhoeddwyd yn ddiweddar mai cylchfan Cross Hands yw'r 3ydd cylchfan mwyaf peryglus yng Nghymru o ran damweiniau traffig a phobl yn cael eu hanafu. Bydd unrhyw un sy'n byw yn yr ardal neu sy'n teithio'n rheolaidd ynddi'n gwybod pa mor beryglus yw'r gylchfan erbyn hyn. Llofnodwch a rhannwch y ddeiseb, er mwyn pwyso am ddatrysiad. 

Rhagor o fanylion

​Mae'r gwrthwynebwyr yn dadlau y byddai goleuadau traffig yn arafu traffig ar ffordd sydd eisoes yn brysur. Gosodwyd goleuadau traffig ar gylchfannau Caerfyrddin a Phont Abraham ers peth amser, ac nid yw tagfeydd traffig yn broblem ddifrifol yn y ddau le. Wrth i'r ffyrdd brysuro, mater o amser yn unig ydyw nes bydd rhywun yn cael ei anafu'n ddifrifol. Dylid defnyddio synnwyr cyffredin a chynorthwyo i gyflwyno camau gorfodi er mwyn gwneud y ffordd hon yn llawer mwy diogel i bob modurwr.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

27 llofnod

Dangos ar fap

5,000