Deiseb a gwblhawyd Diddymwch Ddeddfwriaeth Rhentu Doeth Cymru
Mae'r ddeddfwriaeth yn cynnig bod pob landlord ac asiant sy'n gosod tai wedi'i drwyddedu i allu gosod eiddo yng Nghymru. Mae gwerth i hyn mewn egwyddor. Fodd bynnag, mae'r cynllun a gyflwynwyd yn or-gymhleth ac yn hynod gostus. Byddai ei gwneud yn anghyfreithlon i unigolion neu asiantaethau osod eiddo, a hwythau heb fod yn aelodau o sefydliad cydnabyddedig h.y. ARLA, NAEA, RICS neu â chysylltiadau â landlordiaid preifat, yn sicrhau bod y tenant yn cael ei ddiogelu gan fod yr uchod oll â safonau a meini prawf y mae'n rhaid i aelodau gadw atynt. Cefnogir hyn hefyd gan yr angen i gael yswiriant diogelu arian cleientiaid a bod yn aelod o gynllun unioni annibynnol fel Yr Ombwdsmon Eiddo, dyweder. Wedyn, ni fyddai angen unrhyw ymglymiad costus pellach gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon