Deiseb a gwblhawyd Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc.

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno sgrinio rheolaidd ar gyfer diabetes math 1 mewn plant a phobl ifanc .

Ym mis Ionawr eleni, yn drychinebus collom ein hannwyl ŵyr 13 oed, Peter Baldwin, a hynny oherwydd diabetes math 1 oedd heb ei ganfod nes ei bod yn rhy hwyr i'w achub. Roedd Peter yn ddisgybl oedd yn annwyl iawn ac yn uchel ei barch gan bawb yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd. Mae pawb yn ei golli yno, ond mae'r boen i'w deulu yn aruthrol.

Yn ddiweddar, cyflwynwyd gwobr Pride of Britain i'n merch Beth am ei hymdrechion yn codi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer y clefyd ofnadwy hwn, ond gyda'ch cymorth chi a chymorth eich ffrindiau a'ch teulu, gallwn ni wneud gwahaniaeth go iawn.

A fyddech cystal â threulio ychydig funudau yn arwyddo'n deiseb i alw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglen sgrinio a chodi ymwybyddiaeth o'r angen i archwilio unrhyw un sy'n dod at weithiwr gofal iechyd proffesiynol â symptomau anesboniadwy tebyg i ffliw neu deimlad o salwch cyffredinol i weld a ydynt yn dioddef o ddiabetes math 1. Yr unig beth sydd ei angen mewn prawf o'r fath yw pigiad i'r bys neu sampl wrin ac mae'n cymryd llai o amser nag ydych chi wedi'i dreulio yn darllen y paragraff hwn; mae hefyd yn costio ychydig geiniogau. Ein bwriad yw gwneud y prawf hwn yr un mor arferol mewn meddygfeydd teulu a chlinigau â phrofion tymheredd a phwysau gwaed.

Drwy lofnodi'r ddeiseb hon, gallech helpu i achub bywydau ac atal rhagor o golled erchyll mewn teuluoedd.

Rhagor o fanylion

​Y safon ddelfrydol fyddai sgrinio pob person ifanc er mwyn canfod y cyflwr llechwraidd hwn yn gynnar. Mae sawl rhan o'r byd yn gweld manteision sgrinio o'r fath ac yn ei gyflwyno – y diweddaraf yw Gogledd Carolina yn UDA. Mae linc isod i benderfyniad Gogledd Carolina.

http://insulinnation.com/living/reegans-rule-passes-north-carolina/

Mae Senedd yr Alban yn arwain y ffordd yn y DU ac eisoes wedi ymrwymo i drafod y mater, ac mae'n ymddangos yn debygol iawn y bydd yn cychwyn sgrinio. Rydym eisiau hyn ar gyfer ein plant yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddechrau sgrinio cyn gynted â phosibl.

LLOFNODWCH Y DDEISEB A'I RHANNU Â CHYNIFER O BOBL Â PHOSIBL

(a chofiwch longyfarch eich hun – mae'n bosibl eich bod wedi achub bywyd plentyn)

Mae deiseb ar Change.org yn casglu llofnodion ar hyn o bryd ar gyfer y newid hwn ar draws y DU:

https://www.change.org/p/craig-williams-mp-screen-children-for-type-1-diabetes

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

2,570 llofnod

Dangos ar fap

5,000

Cynhaliwyd dadl yn y Senedd ar y pwnc hwn

Cynhaliwyd dadl ar y pwnc hwn ar 3 Hydref 2018

Gwyliwch y ddeiseb ‘Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc.’ yn cael ei thrafod

Trafodwyd y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Hydref 2018.

Busnes arall y Senedd

Adroddiad gan y Pwyllgor Deisebau

Cyhoeddwyd adroddiad gan y Pwyllgor Deisebau ac yn dilyn hynny fe gynhaliwyd dadl arno yn y Cyfarfod Llawn: https://www.assembly.wales/laid%20documents/cr-ld11664/cr-ld11664-w.pdf

Ymatebodd Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar 26 Medi 2018: http://www.assembly.wales/laid%20documents/gen-ld11751/gen-ld11751-w.pdf