Deiseb a gwblhawyd Sefydlu hawliau mynediad cyhoeddus statudol i dir a dŵr mewndirol at ddibenion hamdden a dibenion eraill.

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i weithredu Bil i sefydlu hawliau mynediad statudol cyhoeddus i dir a dŵr mewndirol at ddibenion hamdden a dibenion eraill. Dylai'r Bil hwn ymgorffori hawliau a chyfrifoldebau mynediad ar gyfer y cyhoedd yn yr un ffordd ag y mae Deddf Diwygio Tir (yr Alban) 2003 yn annog defnydd cydweithredol o'r awyr agored ar gyfer gweithgareddau hamdden iach ac isel eu heffaith. Rhaid i'r Bil ymgorffori hawliau mordwyo cyhoeddus ar gyfer dŵr mewndirol, a chaniatáu mynediad at ddŵr ac ar hyd dŵr. Rhaid iddo gael gwared ar y diffyg eglurder cyfreithiol a'r cyfyngiadau sy'n gweithredu fel rhwystr i chwaraeon a gweithgareddau hamdden, yn ogystal â'r gwaith o hyrwyddo Cymru fel lle sy'n croesawu gweithgareddau hamdden iach, twristiaeth a gweithgareddau anturus ar bob lefel o gyfranogiad a mwynhad.

Rhagor o fanylion

Bwriad Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (i) oedd darparu mynediad cyhoeddus mawr ei angen i gefn gwlad. Cyn gweithredu'r ddeddf hon, fodd bynnag, roedd hi eisoes wedi colli llawer o'r manteision cyhoeddus a fwriadwyd. Er enghraifft, roedd yn ceisio gwahardd y cyhoedd o ddŵr mewndirol. Roedd y ddeddf yn gymhleth, yn ddrud, ac yn methu â darparu'r mynediad i dir a dŵr sydd ei angen ar y cyhoedd yn gyffredinol. Roedd ymarfer mapio'r ddeddf ar ei phen ei hun wedi costio bron i £8 miliwn i fynd i'r afael ag anghenion y ganran fach o'r cyhoedd sydd am gael mynediad i ardaloedd yr ucheldir. Cymerodd Llywodraeth Cymru gyfrifoldeb dros y mater hwn yn 2009 (ii), ac eto, ar ddiwedd 2015, nid yw mynediad i dir at ddibenion hamdden yn diwallu anghenion y cyhoedd yn gyffredinol, ac nid oes cynnydd wedi'i wneud o ran y mater o fynediad i ddŵr. I'r gwrthwyneb, mewn rhai achosion, mae mentrau costus sydd wedi'u cymeradwyo a'u cefnogi gan Lywodraeth Cymru wedi arwain at lai o fynediad i ddŵr mewndirol. Mae dwy Lywodraeth Cymru yn olynol wedi cydnabod yr angen am newid, ond maent wedi dewis proses sy'n cynnal y sefyllfa bresennol. Mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi cyfaddef bod y broses 3-blynedd, sydd wedi costio o leiaf £2.4 miliwn, wedi methu â chyrraedd y nod. Yn hytrach, mae'r broses hon yn amlwg wedi lleihau cyfleoedd—er enghraifft, o ran mynediad i ddŵr mewndirol. Rhoddodd yr Alban ddatrysiad parhaol ar waith drwy ddeddfwriaeth diwygio tir (iv) am gost ddeddfwriaethol o £200,000, gyda chost derfynol o tua £3 miliwn, gan gynnwys cost ymgyrch deledu ac addysg gyhoeddus (v).

(i) Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2000/37/contents/enacted(ii) Adroddiad Ymchwiliad Byr y Pwyllgor Deisebau ar fynediad ar hyd dŵr mewndirol, Mawrth 2009 (iii) https://dl.dropboxusercontent.com/u/62377602/Welsh\_Government\_Letter\_RefTOJG0126513\_16Oct2013.pdf (iv) Deddf Diwygio Tir (yr Alban) 2003 http://www.legislation.gov.uk/asp/2003/2/contents/enacted

(v) BIL DIWYGIO TIR (YR ALBAN) - NODIADAU ESBONIADOL (A DOGFENNAU ATODOL ERAILL) http://www.scottish.parliament.uk/S1\_Bills/Land%20Reform%20%28Scotland%29%20Bill/b44s

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

3,045 llofnod

Dangos ar fap

5,000