Deiseb a gwblhawyd Cynllun y Taliad Sylfaenol yng Nghymru - Mae Angen Model Taliad Rhanbarthol Tecach
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ailystyried ei phenderfyniad i osod model cyfradd wastad ar gyfer talu cymhorthdal Cynllun y Taliad Sylfaenol i ffermwyr Cymru.
Grant yr Undeb Ewropeaidd i helpu'r diwydiant ffermio yw Cynllun y Taliad Sengl. Gall ffermwyr wneud cais am y grant unwaith y flwyddyn - ym mis Mai fel arfer - ac mae'r taliadau'n cychwyn ym mis Rhagfyr.
Ym mis Gorffennaf 2015, gwnaeth Llywodraeth Cymru y penderfyniad i ddechrau talu ar gyfradd wastad fesul hectar i holl ffermwyr Cymru o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol.
O ganlyniad i'r penderfyniad hwn, amcangyfrifir y bydd 1,323 o ffermydd yn colli mwy na €2,500, a bydd taliadau llawer ohonynt yn gostwng tua 40-60% dros gyfnod o bum mlynedd. Bydd y taliadau a gollir yn dod i €100,000 fesul fferm, bob blwyddyn o nawr tan 2019.
Bydd y model taliad cyfradd wastad i holl ffermwyr Cymru yn arwain at ddiweithdra a methiant busnesau. Bydd hyn hefyd yn cael effaith niweidiol ar yr amgylchedd ac ar ansawdd a maint cynnyrch bwyd o Gymru, oherwydd y bydd yr effaith waethaf ar ffermydd cynhyrchiol.
Ceir gwahaniaethau sylweddol yng nghynhyrchiant tir ffermio yng Nghymru. Felly, mae'n hollbwysig bod Cynllun y Taliad Sylfaenol yn cael ei droi'n rhanbarthol. Bydd y penderfyniad hefyd yn rhoi ffermwyr cynhyrchiol yng Nghymru o dan anfantais o'i gymharu â ffermwyr cyfatebol mewn gwledydd eraill; er enghraifft, mae ffermwyr yn Lloegr yn derbyn taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol ar sail ranbarthol.
Mae'n amlwg er budd gorau'r gymuned ffermio a Chymru'n ehangach i sicrhau bod cynllun taliad tecach ar waith.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon