Deiseb a gwblhawyd Gwelliannau i’r Ddarpariaeth Reilffyrdd yng Nghydweli Sir Gaerfyrddin

Yr ydym ni, eich deisebwyr yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i alw ar Lywodraeth Cymru i wella'r ddarpariaeth gwasanaethau rheilffyrdd i Gydweli yn Sir Gaerfyrddin, a'r cyfleusterau yn yr orsaf honno.

Yn benodol o ran:

(1)Gwneud Cydweli yn arhosfan rheolaidd ar yr amserlen, yn lle arhosfan ar gais,

 (2) Gwneud y trenau yn hygyrch i gadeiriau olwyn wrth fynd yn ôl ac ymlaen i'r platfformau, a

(3) Chynyddu amlder y trenau sy'n aros yng Nghydweli.

 

 

Rhagor o fanylion

​Cefndir

Mae Cydweli yn dref fywiog yn Sir Gaerfyrddin, gyda llawer o atyniadau ymwelwyr, gan gynnwys cei sy'n edrych dros aber y Gwendraeth gydag adar a bywyd gwyllt prin, camlas Kymer, sef camlas hynaf Cymru ac amgueddfa Ddiwydiannol.

O ran demograffig, mae gan Gydweli gyfran uwch na'r cyfartaledd yn Sir Gaerfyrddin o bobl sydd â salwch hirdymor cyfyngol a'r gyfran uchaf o bobl dros 45 oed yn y sir, yn ôl proffil adran etholiadol 2015 adran Polisi, Ymchwil a Gwybodaeth Sir Gaerfyrddin.

Yn ogystal mae llawer o bobl yn cymudo i'r gwaith neu ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol y tu allan i'r dref.

Materion

1:       Mae'r orsaf yn arhosfan ar gais, ac mae hyn yn achosi problemau, (a) nid yw ymwelwyr, twristiaid a thrigolion newydd yn deall bob amser bod angen iddynt roi arwydd i wneud i'r trên stopio, mae hyn yn golygu bod pobl yn amharod i ddefnyddio'r trenau ac mae hyn o bosibl yn cael effaith negyddol ar economi'r dref (b) ar drenau heb swyddog tocynnau ni all teithwyr llai abl yn gorfforol symud i lawr y trên at y gyrrwr, mae llawer o bobl yn poeni ac yn ofidus y byddant yn mynd heibio i'w harosfan a dywedwyd bod hynny wedi digwydd, (c) mae'n amlwg bod amser wedi'i gynnwys yn yr amserlen er mwyn caniatáu i'r trên stopio, gan y gellid gofyn am hyn ar bob taith, felly mae'r gofyniad o ran cais yn anacronistig ac yn ddiangen. Dylai'r orsaf fod yn arhosfan safonol ac nid yn arhosfan ar gais.

 2. Mae uchder y platfform ar y platfform tua'r gorllewin mor isel fel na all cadair olwyn na phobl â chymhorthion symudedd eraill fynd i mewn nac allan o'r trenau, hyd yn oed gyda system ramp symudol y trên. Mae hyn yn golygu bod y ddarpariaeth yn wahaniaethol o safbwynt cadeiriau olwyn a defnyddwyr eraill sy'n llai abl yn gorfforol.

 3. Nid yw amlder y trenau sy'n gwasanaethu Cydweli yn ddigonol i gefnogi'r gymuned a'r niferoedd posibl o dwristiaid. Mae hyn yn cyfyngu ar deithiau cymdeithasol, masnachol a thwristiaeth, gan gael effaith negyddol ar les cymdeithasol ac economaidd y gymuned.

 

 

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

138 llofnod

Dangos ar fap

5,000