Deiseb a gwblhawyd Ehangu'r A470 o Bontypridd i gyfnewidfa Coryton, i fod â thair lôn

Rydym yn galw ar Gynulliad Cymru i fuddsoddi yn un o'r prif ffyrdd i'r brifddinas drwy ehangu'r ffordd ddeuol bresennol i fod â thair lôn o Bontypridd i gyfnewidfa Coryton.

Ceir llawer iawn o dagfeydd ar y ffordd bresennol yn y bore ac yn yr hwyr yn ystod yr wythnos, gan achosi trafferth i fodurwyr sy'n teithio rhwng y Cymoedd a'r ddinas. Credir bod hon yn ffactor allweddol sy'n cyfyngu ar ffyniant pobl a busnesau Caerdydd, yn ogystal â Chymoedd y Rhondda, Rhymni, Merthyr a Chaerffili, sy'n dibynnu ar gysylltiadau ffordd da â'r M4 a'r ddinas.

Mae'r tagfeydd yn arbennig o wael ar y ffordd tua'r de o Bontypridd oherwydd sawl ffactor, gan gynnwys traffig yn ciwio i ymuno â'r M4 yng nghyfnewidfa Coryton a'r nifer fawr o geir sy'n ymuno â'r traffig o Ferthyr ac Aberdâr ym Mhontypridd, Glan-bad, Nantgarw a Thongwynlais. Nid yw'r ffordd yn gallu ymdopi â'r holl draffig sy'n dod o Gymoedd y Rhondda a Chaerffili.

O gyfnewidfa Coryton tua'r gogledd, mae'r ffordd ychydig yn well. Fodd bynnag, mae'r holl draffig sy'n ymuno â'r ffordd o'r M4 yn achosi dryswch ac oedi i ddefnyddwyr y ffyrdd yng nghyfnewidfa Coryton. Mae'r ffordd wedyn yn parhau i wynebu tagfeydd a'r traffig yn parhau i symud yn araf hyd nes iddi gyrraedd Pontypridd, pan mae llawer o draffig wedi gadael y ffordd ar hyd ffyrdd ymuno ac ymadael amrywiol. Pan fydd tagfeydd ar y ffyrdd ymuno ac ymadael eu hunain (fel yn Nantgarw a Glan-bad), mae llif y traffig yn eithriadol o araf.

Er nad oes unrhyw ddata ar gael ar hyn o bryd, gellir damcaniaethu y byddai'r gymhareb cost a budd ariannol a fyddai'n deillio o'r buddsoddiad hwn mewn seilwaith yn y rhanbarth yn gadarnhaol, ac rydym yn gobeithio y bydd y Llywodraeth o leiaf yn ystyried y cynnig hwn.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

130 llofnod

Dangos ar fap

5,000