Deiseb a gwblhawyd Rhowch y Brechlyn Llid yr Ymennydd B i Bob Plentyn yng Nghymru am ddim

​Mae iechyd wedi'i ddatganoli'n llwyr i Gymru. Gofynnwn i'r Cynulliad ac i Mark Drakeford newid yr ystod oedran fel bod pob plentyn yn cael y brechlyn.

Mae pob plentyn mewn perygl o ddal yr haint ofnadwy hwn, ac eto dim ond babanod 2 i 5 mis oed y mae Llywodraeth Cymru yn eu brechu. Mae angen cyflwyno rhaglen i frechu pob plentyn hyd at 11 oed o leiaf. Gall heintiau meningococaidd fod yn ddifrifol iawn, gan achosi LLID YR YMENNYDD, SEPTISEMIA A MARWOLAETH

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,195 llofnod

Dangos ar fap

5,000