Deiseb a gwblhawyd Arwynebu Ffordd A40 Rhaglan-Y Fenni

​Mae'r ddeiseb hon yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid yr hen arwyneb concrit ar ffordd yr A40 o Rhaglan i'r Fenni, am darmac tawel (Whispering Tarmac).

Mae'r Cynllun Gweithredu ynghylch Sŵn (2013-18) yn nodi y dylid rhoi blaenoriaeth i'r ffordd hon, ar ôl derbyn yr ymatebion i'r ymgynghoriad ac ar ôl gwneud y mesuriadau. Er hynny, ni chafwyd unrhyw gynnydd er gwaethaf galwadau parhaus gan drigolion, y Cynghorydd Sir lleol , yr Aelod Cynulliad a'r Aelod Seneddol.

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn nodi y dylid rhoi'r flaenoriaeth gyntaf i'r ffordd hon, o ystyried y pryderon niferus a godwyd gan y cyhoedd a chynrychiolwyr a'i bod wedi'i nodi o dan Gynllun Gweithredu ynghylch Sŵn presennol Llywodraeth Cymru.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

22 llofnod

Dangos ar fap

5,000