Deiseb a gwblhawyd Cyflwyno Addysg Iechyd Meddwl Orfodol mewn Ysgolion Uwchradd

​Mae salwch meddwl yn fater sydd bob amser wedi dioddef llawer o stigma mewn cymdeithas. Mae'r geiriau 'Gwallgof', 'Gorffwyll', 'Lloerig' bellach yn eiriau normal ar gyfer disgrifio rhywun gorfywiog, neu'n waeth na hynny, ar gyfer disgrifio unigolyn sy'n cael pwl seiciatrig.

Ym mis Hydref 2015, cynigiodd Brett John a Ffion Rees, Cadeirydd ac Ysgrifennydd Plaid Ifanc Llanelli, gynnig i gynhadledd i gyflwyno addysg iechyd meddwl mewn ysgolion uwchradd. Cafodd ei dderbyn gyda chlod. Fodd bynnag, rydym am wneud llawer mwy na hynny. Rydym yn credu, drwy gyflwyno addysg iechyd meddwl, y gallwn drechu'r stigma sy'n gysylltiedig â salwch meddwl cyn iddo ddechrau o ddifri ymysg myfyrwyr uwchradd. Bydd yn dysgu amrywiaeth o wersi i fyfyrwyr, fel sut mae'n iawn i beidio â bod yn iawn, pam bod salwch meddwl yn datblygu, a'r cymorth sydd ar gael os ydynt yn dioddef.

Rhagor o fanylion

​Dyna pam ein bod yn gofyn i Lywodraeth Cynulliad Cymru gyflwyno addysg iechyd meddwl orfodol i ysgolion uwchradd. Dim ond drwy ddechrau'r sgwrs yn gynnar y gallwn atal y stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl rhag datblygu ymysg ein pobl ifanc.

Pobl ifanc heddiw yw ein dyfodol. Rhaid i ni sicrhau, drwy ddarparu addysg ar iechyd a lles meddwl iddyn nhw, na fyddant byth yn ei weld fel rhywbeth negyddol. Yn y pen draw, gallwn gael gwared ar y stigma, ond mae'r sgwrs i ddechrau'r broses hon ymysg ein pobl ifanc yn dechrau nawr.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

24 llofnod

Dangos ar fap

5,000