Deiseb a gwblhawyd Gwelliannau i Ddiogelwch y Ffordd ar Hyd Cefnffordd yr A487 Rhwng Aberteifi ac Aberystwyth, i Gynnwys Mannau Pasio

Yn dilyn digwyddiadau niferus ar hyd cefnffordd yr A487 yn enwedig rhwng Aberteifi ac Aberystwyth, cyflwynaf ddeiseb i Cynulliad Cymru i wneud gwelliannau ar hyd y ffordd arfordirol hon, yn cynnwys mannau pasio mewn amrywiol leoliadau, er mwyn lliniaru traffig yn cronni y tu ôl i gerbydau araf. Rwyf o’r farn y byddai cael mannau pasio wedi’u lleoli mewn lleoedd strategol yn lleihau rhwystredigaeth gyrwyr a chymryd risgiau wrth geisio goddiweddyd cerbydau eraill.

 

Pan fydd y gefnffordd hon rhwng Abergwaun a Chaergybi wedi’i chau o ganlyniad i ddigwyddiad, mae’r dargyfeiriad ar hyd isffyrdd a all fod yn hunllefus, yn enwedig pan fydd Cerbydau Nwyddau Trwm, bysiau a choetsis yn cwrdd â’i gilydd wrth ddod o gyfeiriadau gwahanol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

849 llofnod

Dangos ar fap

5,000