Deiseb a gwblhawyd Bargen Deg ar gyfer Ralïo mewn Coedwigoedd yng Nghymru

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw gynnydd yn y gost o ddefnyddio ffyrdd mewn coedwigoedd yng Nghymru at ddibenion ralïo ceir yn deg ac yn gydnaws â'r costau a geir yn Lloegr a'r Alban.

Byddai'r gost gyfredol yng Nghymru yn dyblu o dan strwythur prisio arfaethedig Cyfoeth Naturiol Cymru, a fyddai'n dod i rym ym mis Mehefin 2016. Mae hyn yn gwbl groes i'r contractau cyfatebol newydd y mae'r comisiynau coedwigaeth wedi'u rhoi ar waith yn Lloegr a'r Alban.

Tra bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn ceisio dyblu'r costau hyn yng Nghymru, bydd costau yn Lloegr a'r Alban ond yn cynyddu 0.7% (o'u cymharu â'r contract blaenorol).

Mae'r diwydiant ralïo yng Nghymru, sydd werth £15 miliwn, yn dod â buddion twristiaeth di-ri i gefn gwlad Cymru. O dan y drefn gostau y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ceisio ei chyflwyno, byddai cynnal digwyddiadau yng Nghymru yn anghynaliadwy yn y dyfodol oherwydd y costau uchel. Rydym yn gofyn am gynnal ymchwiliad llawn i'r mater hwn er mwyn canfod pam mae'r costau arfaethedig hyn wedi chwyddo cymaint o'u cymharu â rhanbarthau eraill.

Rhagor o fanylion

​Mae #Rally4Wales yn grŵp ymgyrchu a sefydlwyd gan gystadleuwyr, trefnwyr a chefnogwyr ralïo i lobio Llywodraeth Cymru ynghylch ymdrechion Cyfoeth Naturiol Cymru i gynyddu costau mewn modd sy'n hollol groes i gynlluniau ei gymheiriaid yn Lloegr a'r Alban.

Rydym wedi cysylltu â nifer o Aelodau'r Cynulliad er mwyn mynegi ein pryderon, gan gynnwys Ken Skates, Carl Sargeant, Leanne Wood a Llyr Gruffudd, ac rydym yn ymwybodol bod rhai o'n cefnogwyr wedi lobïo Aelodau eraill yn y dyddiau diwethaf. Yn ogystal, rydym wedi cael cefnogaeth gan Aelodau Seneddol yng Nghanolbarth Cymru.

Rydym hefyd wedi codi'r mater gyda Fforwm Modurol Cymru, sy'n cefnogi ein safiad yn llawn.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn honni nad yw, am flynyddoedd lawer, wedi codi digon o dâl at ddibenion atgyweirio difrod ar y ffyrdd a achoswyd gan ralïo. Fodd bynnag, mae'n amhosibl deall sut y gellir defnyddio'r ddadl hon i gyfiawnhau cynnydd o 100% yn y costau a nodir uchod yn wyneb y sefyllfa dra wahanol a welir yn Lloegr a'r Alban. Nid oes unrhyw wahaniaeth technegol rhwng paratoi ac atgyweirio ffyrdd yng Nghymru a gwneud y gwaith hwn yn Lloegr a'r Alban.

Ni allwn gredu bod y costau hyn yn adlewyrchiad teg o'r sefyllfa, ac rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i gynnal ymchwiliad i'r rhesymau pam mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cymryd camau a fydd, yn y pen draw, yn dinistrio elfen hanfodol o economi wledig Cymru.

 

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

5,246 llofnod

Dangos ar fap

5,000