Deiseb a gwblhawyd Cronfa Driniaeth i Gymru - rhaid dod â’r Loteri Cod Post ynghylch Iechyd i ben

​Un o’r datblygiadau pwysicaf a ddaeth o Gymru erioed oedd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Mae’n un o’n hasedau mwyaf gwerthfawr ac mae’n rhaid i ni gadw gafael ynddo. Ar hyn o bryd, rydym mewn sefyllfa anobeithiol lle nad yw mynediad at driniaethau sy’n defnyddio cyffuriau costus sy’n achub bywydau ar gael mewn ffordd deg neu gyfartal ledled Cymru. Mae cleifion sydd ag angen dybryd am gyffuriau i achub eu bywydau yn cael eu hatal gan eu Byrddau Iechyd Lleol rhag cael mynediad at y triniaethau sydd eu hangen arnynt ar gymaint o frys, gan arwain at ganlyniadau difrifol i’w hiechyd a’u disgwyliad oes. Rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu eu gweithdrefnau o ran sancsiynu triniaethau costus ar unwaith. Yn ogystal â hyn, galwaf ar Lywodraeth Cymru i asesu anghenion pob claf fesul achos oherwydd bod y gofyniad presennol bod yr holl gyffuriau y gellir eu hariannu yn ymddangos ar restr o ‘Gyffuriau Cymeradwy’ yn rhy gul, ac yn atal cleifion rhag cael mynediad at driniaethau nad ydynt eto ar y rhestr triniaethau y mae meddygon ymgynghorol yn dweud y byddant yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd hirdymor a disgwyliad oes cleifion.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

27 llofnod

Dangos ar fap

5,000