Deiseb a gwblhawyd Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i bawb
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i wella mynediad at addysg a gwasanaethau o ran Iaith Arwyddion Prydain er mwyn gwella ansawdd bywyd pobl fyddar o bob oedran.
Gwella mynediad fel y gall teuluoedd ddysgu Iaith Arwyddion Prydain: Pan fo plentyn yn cael diagnosis ei fod yn fyddar / yn drwm ei glyw, dylid cynnig gwersi am ddim / gwersi â chymhorthdal i'w rieni, fel y gallant ddysgu Iaith Arwyddion Prydain (mae cwrs Iaith Arwyddion Prydain lefel un yn costio tua £300 y pen). Drwy ddefnyddio lleferydd yn unig, mae plant byddar yn ei chael yn anodd datblygu sgiliau cyfathrebu, neu'n methu â gwneud hynny, gan fethu â chyrraedd cerrig milltir pwysig. Bydd dysgu ieithoedd eraill drwy Iaith Arwyddion Prydain (Saesneg / Cymraeg) yn gwella dealltwriaeth y plentyn.
Cyflwyno Iaith Arwyddion Prydain ar y Cwricwlwm Cenedlaethol: Bydd plant a phobl ifanc byddar sy'n dysgu Iaith Arwyddion Prydain pan fyddant yn ifanc yn cael gwell mynediad at addysg a bydd yn fuddiol i'w lles. Dylai Iaith Arwyddion Prydain gael ei haddysgu i bawb gan athrawon byddar cymwys mewn ysgolion, a byddai hynny'n sicrhau gwell mynediad i bawb yn y gymdeithas. Credwn y dylai Iaith Arwyddion Prydain gael ei chynnig fel cymhwyster iaith i bob dysgwr. Nid yw TGAU Cymraeg (ac ieithoedd modern eraill) yn cael eu cynnig bob amser i ddisgyblion byddar; mae angen gwella'r sefyllfa hon hefyd.
Gwella mynediad at addysg mewn Iaith Arwyddion Prydain i blant a phobl ifanc byddar: mae eu mynediad at addysg mewn Iaith Arwyddion Prydain yn gyfyngedig ar hyn o bryd, ac yn aml, mae cymwysterau'r cynorthwywyr sydd ar gael yn annigonol. Mae bwlch enfawr o ran addysg plant byddar, ac mae llawer yn cael eu trin, ar gam, fel pe tai ganddynt anabledd dysgu. Mae hynny'n effeithio'n negyddol ar eu datblygiad, gan olygu eu bod nhw'n llai annibynnol oherwydd addysg wael, gan arwain at ddiffyg cyflogaeth. Mae angen sicrhau bod gweithwyr cymorth cyfathrebu sydd â chymwysterau digonol ar gael mewn ysgolion.
Sicrhau bod gwasanaethau ac adnoddau ym maes Iaith Arwyddion Prydain ar gael i bobl ifanc fyddar: galluogi defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain i gael gafael ar wybodaeth yn eu dewis iaith drwy adnoddau digidol ar gyfer gwasanaethau fel addysg, gofal iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a thrafnidiaeth gyhoeddus, gan sicrhau bod gwasanaethau ar gael iddynt yn ddiwahân, yn yr un modd â mynediad yn achos yr iaith Gymraeg.
Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon
Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon
Cynhaliwyd dadl yn y Senedd ar y pwnc hwn
Cynhaliwyd dadl ar y pwnc hwn ar 6 Chwefror 2019
Trafodwyd y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn ar 6 Chwefror 2019.
Busnes arall y Senedd
Adroddiad gan y Pwyllgor Deisebau
Cyhoeddwyd adroddiad gan y Pwyllgor Deisebau ac yn dilyn hynny fe gynhaliwyd dadl arno yn y Cyfarfod Llawn: https://www.assembly.wales/laid%20documents/cr-ld11766/cr-ld11766-w.pdf
Ymatebodd Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar 23 Tachwedd 2018: http://www.assembly.wales/laid%20documents/gen-ld11881/gen-ld11881-w.pdf