Deiseb a gwblhawyd Plannu Coed i Leihau Llifogydd

Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i leihau'r risg o lifogydd i filoedd o gartrefi drwy'r wlad drwy gefnogi plannu o leiaf 10 miliwn coeden dros y pum mlynedd nesaf, gan greu perthi, lleiniau coed a mannau coediog wedi'u targedu yn y mannau gorau ar gyfer amsugno'r dŵr ac arafu dŵr ffo.   Byddai plannu'r coed hyn yn cyfrif tuag at nod bresennol Llywodraeth Cymru i blannu 100,000 hectar o goed i amsugno carbon deuocsid o'r awyrgylch.

                       

 

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

2,708 llofnod

Dangos ar fap

5,000