Deiseb a gwblhawyd Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth genedlaethol ar gyfer Cau'r Bwlch o ran cyrhaeddiad addysgol rhwng disgyblion byddar a'u cyfoedion.

Mae'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar yng Nghymru yn cyflwyno'r ddeiseb hon heddiw oherwydd ei bod yn Wythnos Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar, ac mae dwy flynedd wedi mynd heibio ers i 55 Aelod Cynulliad roi adduned y byddent yn cymryd camau i Gau'r Bwlch ar gyfer plant byddar.

Er hynny, mae ystadegau Llywodraeth Cymru yn dangos bod bylchau sylweddol o ran cyrhaeddiad rhwng disgyblion byddar a'u cyfoedion. Yn 2012, roedd disgyblion byddar 26 y cant yn llai tebygol o lwyddo i basio 5 TGAU ar radd A*-C, a 41 y cant yn llai tebygol o lwyddo i basio ar raddau A*-C yn y pynciau craidd Saesneg, Cymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth.

Mae ein deiseb fideo [Opens in a new browser window] yn gofyn i'r arbenigwyr (plant byddar eu hunain) beth sydd bwysicaf yn eu barn hwy. Dywedasant wrthym:

Mae gormod o ddisgyblion byddar yn wynebu rhwystrau yn hyn o beth. Mae angen strategaeth genedlaethol er mwyn goresgyn y rhwystrau a Chau'r Bwlch!

 

Rhagor o fanylion

Mae modd llwytho ein deiseb fideo a'r adroddiad sy'n cyd-fynd â hi oddi ar y wefan: www.ndcs.org.uk/ClosetheGapWales

 

Cynhyrchwyd y ddeiseb fideo gyda chymorth wyth o bobl ifanc byddar, ac mae'n disgrifio'r pedwar ffactor pwysicaf i ddisgyblion byddar mewn ysgolion a cholegau, yn eu barn hwy.

 

Mae'r adroddiad sy'n cyd-fynd â'r fideo yn nodi'r rhwystrau y bydd llawer o ddisgyblion byddar yng Nghymru yn eu hwynebu yn y meysydd hyn. Mae hefyd yn cynnig awgrymiadau ynghylch sut y gallai strategaeth helpu i oresgyn y rhwystrau hyn.

 

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

0 llofnod

Dangos ar fap

5,000