Deiseb a gwblhawyd Rhyddhad Ardrethi Busnes i siopau elusen yng Nghymru

Mae siopau elusen yn gwneud cyfraniad hollbwysig i godi arian ar gyfer ystod eang o achosion da yng Nghymru. Mae 100 y cant o’u helw yn mynd i elusen, gan godi dros £12 miliwn bob blwyddyn yng Nghymru.

 

Byddai cynlluniau i leihau cymorth cyfradd i siopau elusen yng Nghymru yn lleihau’r incwm hwn, a byddai’n achosi i siopau elusen i  gau, gan adael mwy o siopau gwag ar strydoedd mawr Cymru ac yn bygwth 700 o swyddi llawn amser a 9,000 o gyfleoedd gwirfoddoli sy’n cael eu cynnig gan siopau elusen yng Nghymru. Byddai’n lleihau y gwasanaethau mae elusennau yn gallu eu darparu i gymunedau yng Nghymru yn arwyddocaol.

 

Rydym ni’n galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog  Llywodraeth Cymru i wrthod cynlluniau allai gyfyngu y cymorth cyfradd hanfodol i siopau elusen Cymru.

 

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

22,600 llofnod

Dangos ar fap

5,000