Deiseb a gwblhawyd Annog Pwyllgorau Cynllunio i Sicrhau bod Penderfyniadau ar Faterion Cynllunio yn Rhoi sylw Dyledus i’r Effaith ar Grwpiau Ymunedol a Sefydliadau Gwirfoddol neu i’r Posibilrwydd y Bydd y Grwpiau a’r Sefydliadau hyn yn Cau

​Mae niferoedd cynyddol o eglwysi ac adeiladau cymunedol yn cau ac yn cael eu gwerthu ar gyfer datblygiadau eraill, er gwaethaf y ffaith eu bod yn parhau i gael eu defnyddio gan grwpiau cymunedol. Yn aml, mae’r gwerthiannau hyn yn amodol ar roi caniatâd cynllunio ar gyfer addasu neu ddymchwel adeiladau cyn i brynwyr gwblhau gwerthiannau. Yn anffodus, mae’r broses hon yn aml yn golygu bod grwpiau cymunedol fel meithrinfeydd a’r Sgowtiaid yn gorfod gadael adeiladau yn ystod y broses gynllunio. Felly, rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i newid y gyfraith gynllunio, neu ganllawiau ynghylch y gyfraith hon, i sicrhau bod pwyllgorau cynllunio yn ystyried yr effaith ar y gymuned o droi grwpiau cymunedol allan yn ystod y broses o roi caniatâd cynllunio.

 

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

79 llofnod

Dangos ar fap

5,000