Deiseb a gwblhawyd Yr Ymgyrch Caplaniaeth Elusennol

​Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i beidio â defnyddio cyllideb y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar gyfer gofal crefyddol, ac i weithio gydag arweinyddion crefydd gyfundrefnol i sefydlu ymddiriedolaeth elusennol i ariannu gofal crefyddol yn ysbytai Cymru.

 

Rhagor o fanylion

Mae’r ymgyrch caplaniaeth elusennol yn cynnwys rhwydwaith anffurfiol o ddinasyddion sy’n pryderu y dylid defnyddio pob miliwn o bunnoedd o arian cyhoeddus a ddyrennir i’r GIG yng Nghymru i hyrwyddo iechyd cyhoeddus ac i drin y rheini sydd angen sylw meddygol.

 

Nid oes gan ein hymgyrch unrhyw arian ac nid oes angen unrhyw arian arnom.  Ni chaiff ei noddi gan unrhyw sefydliad arall yng Nghymru na’r tu allan i Gymru. Mae gwasanaethau modern sy’n seiliedig ar y rhyngrwydd yn caniatáu i ni gyfathrebu â’n gilydd ac â’n cynrychiolwyr sydd wedi’u hethol yn ddemocrataidd.

 

Mae ein cefnogwyr i gyd wedi gweld dwy ddogfen sydd wedi’u darparu i gefnogi’r ddeiseb hon ac maent yn cytuno â hwy, sef Principles, sy’n nodi ein hysgogiad, a Proposal sy’n nodi ein hachos gyda thystiolaeth ategol a dadl resymegol.

 

Rydym yn darparu trydedd dogfen sef Employment, sy’n rhoi tystiolaeth o’r ffordd y caiff yr arian sy’n cael ei dynnu o Gyllideb y GIG ar gyfer gwasanaethau caplaniaeth ysbytai ei wario ar hyn o bryd.

 

 

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1 llofnod

Dangos ar fap

5,000