Penderfyniad gan y Llywydd o dan Reol Sefydlog 23.3 ynghylch priod ffurf deisebau

Mae’r Llywydd wedi gwneud y penderfyniad canlynol ynghylch priod ffurf deisebau’r cyhoedd a gyflwynir o dan Reol Sefydlog 23.

  1. Dull a fformat ar gyfer cyflwyno

    Gellir cyflwyno deisebau ar bapur neu yn electronig drwy ddefnyddio system ddeisebau ar-lein y Senedd. Gall deisebau gasglu llofnodion am gyfnod o hyd at chwe mis.

    Ar gyfer deiseb bapur, dylai geiriad y ddeiseb gael ei nodi’n llawn ar bob dalen (neu ochr dalen) lle gofynnir am lofnodion. Mae templed ar gael ar gais.

  2. Geiriad

    Dylid cyflwyno deisebau yn ddidwyll. Dylent alw ar y Senedd neu Lywodraeth Cymru i gymryd camau penodol.

  3. Gofynion sylfaenol

    Mae’n rhaid i ddeisebau nodi’r canlynol yn glir:

    • enw’r deisebydd, a all fod yn unigolyn neu’n sefydliad;
    • cyfeiriad y deisebydd, sy’n gorfod bod yng Nghymru, ar gyfer anfon pob gohebiaeth ynghylch y ddeiseb;
    • llofnodion gan o leiaf 50 o bobl sy’n cefnogi’r ddeiseb ac enwau a chyfeiriadau’r bobl hynny.

    Ni ddylai deisebau:

    • gynnwys iaith sy’n peri tramgwydd, sy’n eithafol neu sy’n herfeiddiol. Mae hyn yn cynnwys rhegfeydd a geiriau sarhaus amlwg, ac unrhyw iaith y byddai person rhesymol ei ystyried yn dramgwyddol;
    • gofyn i’r Senedd wneud unrhyw beth y mae eglur nad oes gan y Senedd bŵer i’w wneud (yn benodol nid yw deisebau ynghylch materion sydd heb eu datganoli yn dderbyniadwy);
    • bod yr un fath, neu i raddau helaeth yr un fath, â deiseb sy’n agored ar hyn o bryd neu a gaewyd lai na blwyddyn yn gynt.

    Rhaid i’r deisebau gydymffurfio mewn ffyrdd eraill â’r penderfyniad hwn.

  4. Ffactorau eraill sy’n ymwneud â derbyniadwyedd

    Nid yw deisebau sy’n cynnwys y canlynol neu’n gofyn i’r Senedd ystyried y canlynol yn dderbyniadwy:

    • ymyrryd ym mhenderfyniadau gweithrediadol neu gamau gweithredu awdurdodau lleol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol, gan gynnwys penderfyniadau cynllunio;
    • gofyn am benodi unigolyn i rôl neu swydd neu ei symud oddi arno, ymddiswyddo, neu am bleidlais o ddiffyg hyder;
    • dyfarnu, cyflafareddu neu gyfryngu o ran buddiannau personol neu fasnachol (swyddogaeth llys neu dribiwnlys yw hyn);
    • materion ’sub judice’ (yn amodol ar weithdrefnau cyfreithiol yn y llysoedd);
    • materion sydd eisoes yn destun dyfarniad gan ombwdsmon (neu berson sydd â phwerau tebyg).

    Ni ddylai deisebau gynnwys:

    • datganiadau ffug neu ddifrïol posibl;
    • gwybodaeth a waherddir rhag cael ei chyhoeddi gan orchymyn llys neu gorff neu berson sydd â phŵer tebyg;
    • deunydd sydd o bosibl yn gyfrinachol, yn fasnachol sensitif, neu a all beri trallod personol neu golled;
    • unrhyw gymeradwyaeth fasnachol, hyrwyddo unrhyw gynnyrch, gwasanaeth neu gyhoeddiad neu ddatganiadau sy’n gyfystyr â hysbysebion;
    • enwau swyddogion cyrff cyhoeddus, oni bai eu bod yn uwch reolwyr yn y sefydliadau hynny;
    • enwau aelodau teuluoedd cynrychiolwyr etholedig neu swyddogion cyrff cyhoeddus;
    • enwau unigolion, neu wybodaeth y gellir ei defnyddio i’w hadnabod, mewn perthynas â chyhuddiadau troseddol;
    • materion lle nad deiseb yw’r sianel briodol (er enghraifft, gohebiaeth am fater personol).
  5. Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth

    Ni chaniateir deisebau sydd, yn eu hanfod, yn geisiadau rhyddid gwybodaeth. Mae trefniadau penodol eraill ar gyfer ceisiadau rhyddid gwybodaeth.

  6. Achosion Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

    Ni chaniateir deisebau sy’n gwneud honiadau ynghylch achosion penodol o gamweinyddu neu fethiant gwasanaeth gan gyrff cyhoeddus. Yn yr achosion hyn, cynghorir deisebwyr i gysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ystyried eu pryderon.