Deiseb a wrthodwyd Mae hyfforddwyr cymwys o bob camp yn cael eu hatal rhag hyfforddi plant yn y chwaraeon o’u dewis yn eu priod glybiau oherwydd ffiniau’r cyfyngiadau lleol.

Mae clybiau wedi cyflwyno gweithdrefnau diogel o ran Covid ac maent yn dilyn canllawiau’r Corff Llywodraethu Cenedlaethol. Caniateir i hyfforddwyr o fewn y ffiniau sirol hyfforddi, ond ni all y rhai sy'n byw y tu allan i'r ardaloedd lle mae eu clwb chwaraeon wedi’i leoli wneud hynny. Mae hyn yn golygu bod llawer o blant yn dal i fethu â hyfforddi yn y chwaraeon o’u dewis gan fod eu hyfforddwr / hyfforddwyr yn byw y tu allan i'r sir lle mae'r clwb wedi’i leoli. Yn dilyn cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru y gall plant bellach deithio ar draws ffiniau sirol i hyfforddi, mae'n hanfodol bod hyfforddwyr ar gael i hwyluso hyfforddiant o'r fath.

Rhagor o fanylion

Mae llawer o hyfforddwyr yn wirfoddolwyr sy'n rhoi o'u hamser hamdden i hyfforddi plant yn eu priod chwaraeon ac maent yn hanfodol i chwaraeon ar lawr gwlad. Hoffem i'r Senedd ganiatáu i Hyfforddwyr fynychu eu clybiau chwaraeon, a'i gwneud yn “esgus rhesymol” dros fynd i mewn i ardal sy’n destun cyfyngiadau symud, fel y gall plant barhau i hyfforddi yn y chwaraeon o'u dewis.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Cafodd y ddeiseb hon ei thynnu yn ôl gan y deisebydd.

Yng sgil newidiadau i reoliadau Coronavirus, sy'n golygu bod y camau y gofynnwyd amdanynt gan y ddeiseb bellach wedi'u cymryd, tynnodd y deisebydd y ddeiseb yn ôl.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi