Deiseb a wrthodwyd Make the sale of loud fireworks illegal in Wales

Ban the use of loud fireworks in Wales

Rhagor o fanylion

At Halloween, New Years, Christmas, Bon fire night and the weekends after such events distresses far too many wild and domestic animals and those who suffer from Psychological orders such as PTSD through the loud bangs, so why do we still use them when silent versions exist?

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Mae’n gofyn i’r Senedd wneud rhywbeth na all ei wneud.

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn cadarnhau graddau pŵer y Senedd i wneud cyfreithiau newydd a diwygio cyfraith bresennol (a elwir hefyd yn gymhwysedd deddfwriaethol). Mae Atodlenni 7A and 7B o Ddeddf 2006 yn nodi’r materion sy’n gyfyngedig neu a gedwir yn ôl - h.y. meysydd lle y caiff Senedd y DU, nid Senedd Cymru, ddeddfu.

Mae sawl cymal cadw yn cyfyngu ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd yn y maes hwn, gan gynnwys mewn perthynas â ‘gwerthu a chyflenwi nwyddau i ddefnyddwyr' a 'safonau, diogelwch ac atebolrwydd mewn perthynas â chynhyrchion'.

Yn benodol, mae ‘safonau a gofynion technegol mewn perthynas â chynhyrchion yn unol â rhwymedigaeth o dan gyfraith yr UE’ wedi'u cadw gan Senedd y DU. Mae safonau technegol ar gyfer pyrotechneg (gan gynnwys tân gwyllt) yn dod o dan Gyfarwyddeb 2013/29/EU yr UE, a droswyd i gyfraith y DU gan Reoliadau Eitemau Pyrotechnegol (Diogelwch) 2015. Mae'r rheoliadau hyn yn nodi'r safonau technegol y mae'n rhaid i eitemau pyrotechnegol eu bodloni er mwyn cydymffurfio â chyfraith yr UE, gan gynnwys rhai mewn perthynas â lefelau sŵn.

Nid yw gwledydd sy'n ddarostyngedig i gyfraith yr UE yn gallu ‘gwahardd, cyfyngu na rhwystro eitemau pyrotechnegol sy'n bodloni gofynion y Gyfarwyddeb rhag cael eu gwerthu ar y farchnad’. Felly nid yw'n bosibl i'r Senedd gymryd y camau y mae eich deiseb yn gofyn amdanynt.

Efallai y bydd y sefyllfa hon yn newid ar ôl i gyfnod gweithredu y DU/UE ddod i ben (ar hyn o bryd mae disgwyl iddo ddod i ben ar 31 Rhagfyr 2020). Fodd bynnag, nid yw'n glir ar hyn o bryd a fyddai'r Senedd wedyn yn gallu cymryd mwy o gamau mewn perthynas â’r mater hwn.

Mae deiseb sy'n galw am roi terfyn ar werthu tan gwyllt i'r cyhoedd ar hyn o bryd yn casglu llofnodion: https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/244400

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi