Deiseb a gaewyd Diwygio Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021

Er gwaethaf y ffaith mai ychydig flynyddoedd yn unig yw hi ers i’r newidiadau gael eu cyflwyno, ac er gwaethaf yr addewidion o gymorth cynharach a gwell i blant a phobl ifanc ag ADY, mae mwy a mwy o ddisgyblion ADY yng Nghymru’n cael eu methu. Mae problemau hefyd o ran cysondeb ac atebolrwydd.
Mae ffocws mawr o hyd ar Ddarpariaethau Cyffredinol yn hytrach na dull cyfannol Cynlluniau Datblygu Unigol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer disgyblion ADY. Dylai disgyblion ag anableddau iechyd meddwl / corfforol gael mynediad cyfartal at gymorth ac addysg o safon.

Rhagor o fanylion

Gwrthodir cymorth i blant dan 5 oed ar sail y 'rhagdybiaeth' y byddant yn 'dal i fyny' erbyn iddynt gyrraedd oedran ysgol statudol. Pan gaiff Cynlluniau Datblygu Unigol eu llunio, mae ysgolion yn gallu dehongli yr hyn sydd ei angen heb atebolrwydd digonol na chysylltiad â therapyddion iechyd arbenigol am arweiniad. Galwn am barchu hawliau o dan Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anabledd gdrwy sicrhau:
• Cod ymarfer cyffredinol i ddarparu addysg gynhwysol o safon i bob disgybl ADY.
• Lleoliadau addysgol sy'n cynnig darpariaethau ag adnoddau priodol a staff hyfforddedig sy'n cyrraedd safon addysg gyda sicrwydd ansawdd i wneud y system yn deg ac yn ddibynadwy ac i’w galluogi i ateb y galw cynyddol.
• Mae angen i addysg ac iechyd weithio'n agosach gyda'i gilydd.
• Hyfforddiant arbenigol gorfodol a chymorth i athrawon a’u staff.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

15,160 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Bydd y Senedd yn cynnal dadl ar y ddeiseb hon

Bydd y Senedd yn cynnal dadl ar y ddeiseb hon ar 8 Mai 2024.

Gallwch chi wylio’r ddadl ar-lein ar Senedd TV.